Croeso’n Ôl!

Croeso’n Ôl!

Croeso’n ôl i Theatr Clwyd – mae gan y dudalen yma fwy o wybodaeth am beth sydd gennym ni yn ei le i sicrhau bod eich profiad yn ddiogel ac yn bleserus.

Sylwer y gall y rhain newid wrth i gyfyngiadau gael eu llacio neu eu gweithredu.


Cyn Eich Ymweliad

Gwiriwch Eich Tocynnau – Gwiriwch eich tocynnau ddwywaith – weithiau mae pobl yn cyrraedd i’r perfformiad anghywir (a’r lleoliad anghywir yn achlysurol) - mae edrych yn gyflym yn helpu i osgoi unrhyw broblemau!

Gofynion Mynediad – Os oes gennych chi unrhyw ofynion mynediad – e.e. rydych chi’n defnyddio cadair olwyn neu’n simsan ar eich traed, neu’n ddall, yn fyddar neu’n rhannol ddall, cysylltwch â ni. Gall ein swyddfa docynnau roi cyngor ar lwybrau mynediad hawdd a hyd yn oed sicrhau bod gennym staff o gwmpas i helpu!

Archebu Eich Diod Ymlaen Llaw – Gallwch chi archebu eich diodydd ymlaen llaw drwy ddefnyddio ein ap i archebu. Mae ar gael ar android ac IOS.

Cyrraedd

Ffyrdd Ar Gau – Mae’r ffordd y tu allan i’r theatr ar gau oherwydd y gwaith ailddatblygu – cadwch lygad am yr arwyddion mawr melyn wrth i chi agosau at y theatr a fydd yn eich helpu i fynd y ffordd gywir. Os ydych chi’n dod o’r Wyddgrug (neu ein tafarn leol y Glasfryn) bydd angen i chi droi o flaen y llysoedd barn i gyrraedd ein maes parcio!

Parcio – Cyngor Sir y Fflint sy'n gweithredu’r maes parcio o dan y ddaear. Mae am ddim ar ôl 5pm ond mae angen talu am weddill y dydd. Y prisiau parcio (cyn 5pm) yw £1.50 am ddiwrnod llawn (ar hyn o bryd) a £1 am 3 awr. Yn anffodus, arian parod yn unig sy’n cael ei dderbyn yn y peiriannau parcio, fodd bynnag gall ein bar helpu gyda newid mân!

Ein Twnnel – Mae ein twnnel bellach ar gau yn barhaol (oherwydd problemau dŵr mawr a’n gwaith ailddatblygu cyfalaf). Mae grisiau o’r maes parcio (a all fod ychydig yn llaith pan fydd hi’n bwrw glaw) – mae’n rhywbeth y byddwn yn mynd i’r afael ag ef yn ein gwaith ailddatblygu. Mae'r llwybr i fyny'r bryn wedi'i oleuo'n dda ac mae ganddo arwyneb diogel iawn wedi'i wneud o deiars wedi'u hailgylchu.

Pwynt Gollwng Hygyrch - Mae gennym ni bwynt gollwng hygyrch, gwastad y tu ôl i’n cyntedd newydd – ewch i fyny’r ffordd sy’n arwain y tu ôl i’r theatr i’w gyrraedd. Er na allwch barcio yno mae'n iawn i chi oedi am 5 munud i helpu pobl i mewn i’r adeilad. Os cewch chi unrhyw broblemau, ffoniwch ni a gallwn ddod o hyd i ffyrdd o helpu.

Yr Amser Cyrraedd Rydym yn ei Argymell – Cyrhaeddwch 30 munud cyn y sioe, er ein bod yn gallu derbyn hwyrddyfodiaid weithiau nid yw hyn yn wir bob amser ac ychydig iawn o seddi sydd gennym ni i hwyrddyfodiaid.

Pentref y Theatr – Mae cyntedd pentref dros dro y theatr newydd yn agor 90 munud cyn i’r sioe ddechrau – mae gennym ni far hyfryd, toiledau newydd gwych, diodydd poeth ac oer a gallwch ddarllen papur newydd ein theatr wrth i chi aros!

Yn Ystod Eich Ymweliad

✔ Taliadau Digyswllt – Byddem wir yn annog taliadau digyswllt yn ystod eich ymweliad ac mae gennym ni safleoedd taliadau digyswllt yn ein bar ac wrth y ddesg docynnau.

✔ Mwy o Lanhau – Rydyn ni’n glanhau mwy ar ein hadeilad – efallai y byddwch yn ein gweld yn glanhau ein harwynebau yn ystod eich ymweliad – bydd hynny’n rhan o’r drefn ac nid oes angen poeni am y peth.

✔ E-Docynnau - Does dim angen argraffu eich e-docynnau – dim ond eu dangos wrth y drws ar eich ffôn clyfar.

✔ Toiledau – Mae gennym ni fwy o doiledau nag yn ein hadeilad blaenorol, fodd bynnag, efallai y bydd ciwiau weithiau. Ond bydd gan ein hadeilad wedi'i ailddatblygu lawer mwy o doiledau!

✔ Allanfeydd Brys – Yn ystod ein gwaith ailddatblygu rydyn ni’n defnyddio un drws yn bennaf i fynd i mewn ac allan o’r prif dŷ, ond peidiwch â phoeni, mae gennym ni dair allanfa frys pe bai angen gadael y theatr mewn argyfwng.

Ar Ôl Eich Ymweliad

Eich Adborth – Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am eich profiad gyda ni. Y diwrnod ar ôl y digwyddiad byddwn yn anfon arolwg atoch chi – rydyn ni’n darllen pob un ohonyn nhw ac yn gwneud newidiadau os gallwn ni – gallwch hefyd anfon e-bost atom ni i box.office@theatrclwyd.com

Dweud wrth eich ffrindiau – Os gwnaethoch chi fwynhau eich ymweliad â ni, dywedwch wrth eich ffrindiau, rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth ein cymunedau a'n cynulleidfaoedd i wneud yn siŵr bod y celfyddydau yn parhau i ffynnu yng Ngogledd Cymru.


Archebwch eich diodydd a’ch byrbrydau gyda’n ap newydd ar gyfer Bariau Theatr Clwyd.

Archebwch unrhyw bryd, o pan rydych chi’n prynu eich tocyn hyd at ddechrau’r sioe.

Lawrlwythwch ap Theatr Clwyd Bars am ddim i archebu eich diodydd a’ch byrbrydau. Ar gael ar iOS ac Android.

Neu archebwch ar-lein yma.


Ad-daliad

Mae’n bwysig i ni bod gennych chi hyder wrth archebu eich tocynnau gyda ni. Am gyfnod cyfyngedig rydyn ni’n newid ein polisi ad-daliadau mewn ymateb i’r achosion o Covid – bydd hyn yn gwneud ein tocynnau’n fwy hyblyg os ydych chi’n sâl neu’n ynysu.

Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i bob digwyddiad tan 1 Awst 2022.

Os caiff y sioe ei chanslo

Os caiff y sioe ei chanslo bydd eich arian yn ddiogel a byddwch yn cael eich arian yn ôl.

  • Bydd gennych hawl i ad-daliad llawn.
  • Efallai y gofynnir i chi a ydych eisiau ad-daliad i’ch cerdyn talu, nodyn credyd gyda’r theatr, cyfnewid eich tocynnau am berfformiad wedi’i aildrefnu neu a ydych eisiau rhoi swm eich ad-daliad yn llawn neu’n rhannol i helpu’r theatr gyda’i gwaith.
  • Mae ad-dalu cynulleidfa lawn yn dasg fawr felly gall hyn gymryd sawl diwrnod i’w gwblhau.
  • Os ydych chi wedi talu gydag arian neu siec, gall gymryd mwy o amser i ni roi ad-daliad i chi weithiau.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cyfeiriad e-bost a rhif ffôn wrth archebu.

Os ydych chi’n sâl ac yn methu mynychu

Os ydych chi’n sâl neu os oes gennych chi symptomau Covid yn y dyddiau cyn eich ymweliad gofynnwn i chi gysylltu a gallwn helpu i symud neu gredydu eich tocynnau i sicrhau bod pawb yn ddiogel.

  • Gallwn gynnig nodyn credyd gyda'r theatr neu gyfnewid i berfformiad gwahanol. Codir £1 y tocyn am wneud hyn (mae hyn am ddim i aelodau).
  • Bydd angen i chi roi gwybod i ni 12 awr cyn y perfformiad drwy ffonio ein swyddfa docynnau ar 01352 344101 (gall ein llinellau ffôn fod yn brysur) neu drwy e-bostio box.office@theatrclwyd.com
  • Gall credydau gymryd ychydig o ddyddiau i ymddangos yn eich cyfrif.
  • Rhaid defnyddio unrhyw gredyd o fewn 18 mis.
  • Os byddwch yn cyfnewid i berfformiad arall a'r tocynnau a ddewisir yn ddrytach efallai y byddwn yn gofyn i chi dalu'r gwahaniaeth rhwng y seddi hynny (os ydynt yn rhatach, byddwn yn rhoi nodyn credyd gyda’r gwahaniaeth i chi).
  • o Nid ydym yn cynnig ad-daliadau i gardiau talu, dim ond o dan amgylchiadau eithriadol.
Os nad ydych chi’n sâl ac yn methu mynychu

Os ydych chi'n teimlo'n bryderus neu'n nerfus am ymweld, gallwn ni helpu i symud neu gredydu'ch tocynnau i sicrhau bod bywyd mor hawdd â phosib i chi.

  • Gallwn gynnig nodyn credyd gyda'r theatr neu gyfnewid i berfformiad gwahanol. Codir £1 y tocyn am wneud hyn (mae hyn am ddim i aelodau).
  • Bydd angen i chi roi gwybod i ni 6 awr cyn y perfformiad drwy ffonio ein swyddfa docynnau ar 01352 344101 (gall ein llinellau ffôn fod yn brysur).
  • Gall credydau gymryd ychydig o ddyddiau i ymddangos yn eich cyfrif.
  • Rhaid defnyddio unrhyw gredyd o fewn 18 mis.
  • Os byddwch yn cyfnewid i berfformiad arall a'r tocynnau a ddewisir yn ddrytach efallai y byddwn yn gofyn i chi dalu'r gwahaniaeth rhwng y seddi hynny (os ydynt yn rhatach, byddwn yn rhoi nodyn credyd gyda’r gwahaniaeth i chi).
  • Nid ydym yn cynnig ad-daliadau i gardiau talu, dim ond o dan amgylchiadau eithriadol.

Rhodd

Bydd hyn yn ein helpu i fynd trwy'r amseroedd anodd hyn, gan gynnwys rheoli costau actorion a phobl greadigol ar eu liwt eu hunain.

Trwy roi rhodd byddwch yn cefnogi ein gwaith ar y llwyfan a thu hwnt.

Rydyn ni’n teimlo’n angerddol am greu theatr o safon byd ac wedi ymrwymo
i gefnogi dyfodol y celfyddydau drwy feithrin talent newydd a chreu
prosiectau ieuenctid a chymunedol arloesol.

Fel elusen gofrestredig, mae Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd Trust Ltd (Rhif Cofrestru’r Elusen 1189857) yn gallu hawlio Rhodd Cymorth ar eich cyfraniad chi. Mae Rhodd Cymorth yn ffordd wych o allu rhoi ychydig bach mwy heb ddim cost ychwanegol i chi. Os ydych chi’n gymwys amRodd Cymorth, rydyn ni’n gallu hawlio 25% gan CThEM yn ychwanegol at eich cyfraniad.

Bydd eich cyfraniad o £10 i Theatr Clwyd yn werth £12.50 wedyn!