Technegydd lleoliad - William Aston Hall
Disgrifiad Swydd

Rydyn ni'n chwilio am Dechnegydd Lleoliad dibynadwy a medrus i ymuno â'n tîm ni ar gontract tymor penodol 6 mis. Gan adrodd i Reolwr Technegol y Lleoliad, byddwch yn cefnogi ystod eang o gynyrchiadau a digwyddiadau, gan sicrhau gweithrediadau technegol llyfn.
Mae'r dyletswyddau allweddol yn cynnwys cynorthwyo gyda symud i mewn, gosod a gadael; gweithredu a chynnal offer goleuo, sain a llwyfannu; a darparu cefnogaeth dechnegol yn ystod perfformiadau. Byddwch hefyd yn helpu gyda chynnal a chadw'r lleoliad o ddydd i ddydd ac yn cynnal safonau uchel o ran iechyd a diogelwch.
Mae'r rôl hon yn addas ar gyfer rhywun sydd â phrofiad ymarferol mewn theatr dechnegol, agwedd hyblyg at waith, a'r gallu i weithio'n dda o dan bwysau. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Math o Gontract- Contract Tymor
Oriau - 25 yr wythnos
Y Rôl
Pwrpas y Swydd
Gweithio fel rhan o'r tîm technegol ac, o dan oruchwyliaeth Rheolwr Technegol y Lleoliad, darparu gwasanaeth o'r safon uchaf bosibl i bob cynhyrchiad sy'n ymweld.
Cyfrifoldebau allweddol
Cyffredinol
- Darparu cefnogaeth dechnegol i holl ddefnyddwyr y lleoliad.
- Darparu gwasanaeth technegol yn ystod perfformiadau yn ôl yr angen.
- Cwblhau gwaith ymarferol mewn perthynas â symud i mewn, gosod, tynnu i lawr a gadael gan gynnwys cydosod, rigio, addasu a defnyddio golygfeydd, propiau, offer rigio a chodi, offer goleuo, effeithiau arbennig ac offer sain.
- Paratoi cynlluniau ac amserlenni, yn ôl yr angen, mewn perthynas â gosod a rigio offer technegol.
- Gosod unrhyw offer technegol sydd ei angen ar gyfer y gofod perfformio neu ddigwyddiadau.
- Lle bo angen, darparu cymorth technegol i ddefnyddwyr allanol.
- Ysgwyddo cyfrifoldeb am gynnal a chadw'r safle o ddydd i ddydd.
- Bod yn gyfrifol am agor a chau ardaloedd cefn llwyfan pan fo angen.
Y Person
Hanfodol
- Profiad ymarferol perthnasol o weithio mewn adran dechnegol lleoliad neu theatr, neu gwmni teithiol neu debyg, neu gymhwyster cydnabyddedig priodol.
- Profiad o rigio, addasu, rhaglennu a gweithredu offer goleuo, sain a chlywedol theatrig, dosbarthu pŵer, a systemau cyfathrebu a rheoli.
- Profiad o rigio, addasu a gweithredu systemau rigio a hedfan theatrig.
- Profiad o sefydlu a rigio systemau golygfeydd a decin llwyfan.
- Gallu clir i ddarllen a deall cynlluniau technegol, gyda gwybodaeth am CAD a rhaglenni eraill.
- Gallu i ddefnyddio ystod eang o offer pŵer cludadwy ac offer llaw yn ddiogel ac yn hyderus.
- Profiad o weithredu gofynion Iechyd a Diogelwch ac asesiadau risg.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.