Saer Golygfeydd
Disgrifiad Swydd

Mae Theatr Clwyd yn chwilio am Saer Golygfeydd i ymuno â'n tîm Adeiladu Setiau ni. Gydag arbenigedd mewn adeiladu, gwaith coed a / neu waith metel, bydd yr unigolyn yma’n gweithio fel rhan o'r tîm yn ein hadran Creu Theatr, gan adeiladu setiau ar gyfer cynyrchiadau Theatr Clwyd. Mae'r Gweithdy Adeiladu wedi cael ei adeiladu o’r newydd ar y safle yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, sydd wedi'i hadnewyddu yn ddiweddar.
Math o Gontract- Parhaol
Oriau - 37 yr wythnos
Y Rôl
Cyffredinol
- O dan arweinyddiaeth Rheolwr y Gweithdy, cynorthwyo gydag adeiladu setiau neu unrhyw eitem gynhyrchu yn ôl y gofyn, i'r safonau uchaf posibl ac o fewn yr amser a'r gyllideb a neilltuwyd.
- Cynorthwyo yn ystod gwaith ffitio a’r wythnosau cynhyrchu.
- Ymgymryd â gwaith ymarferol mewn perthynas â symud i mewn, gosod, tynnu’r set i lawr a symud allan, gan gynnwys cydosod, addasu a defnyddio golygfeydd, props, rigio ac offer codi.
- Rhoi gwybod i Reolwr y Gweithdy os oes angen llogi neu brynu unrhyw offer arbenigol, eitemau traul a’r ffitiadau os oes angen.
- Lle bo angen, darparu cymorth technegol i ddefnyddwyr allanol.
- Cysylltu â Rheolwr y Gweithdy a’r Rheolwr Celf Golygfeydd i helpu i sicrhau bod yr adran yn gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon drwy gydol y broses adeiladu, sy'n cynnwys gwaith adeiladu a golygfeydd.
- Gweithio ochr yn ochr â’r timau Adeiladu a Golygfeydd i sicrhau cynnal a chadw'r gweithdy o ddydd i ddydd.
Iechyd a Diogelwch
- Sicrhau bod yr holl ofynion Iechyd a Diogelwch yn cael eu bodloni bob amser wrth weithio.
- Mynychu hyfforddiant yn ôl yr angen a chynnal ymwybyddiaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch sy'n benodol i'r gofod, y peiriannau a'r offer a ddefnyddir.
- Sicrhau bod yr holl offer arbenigol yn cael ei gau i lawr yn gywir ar ddiwedd pob diwrnod gwaith.
- Rhoi gwybod am neu sicrhau bod pob perygl posibl yn cael ei wneud yn ddiogel cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl.
Arall
- Helpu i sicrhau bod yr holl offer yn cael ei storio'n ddiogel a'i fod ar gael yn hwylus i ddefnyddwyr awdurdodedig.
- Pan fo angen, ymgymryd â rhestr eiddo o'r holl offer a deunyddiau sy’n cael eu cadw a’u defnyddio.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen rhesymol fel y nodir gan y Rheolwr Gweithdy, y Rheolwr Cynhyrchu neu'r Pennaeth Cynhyrchu.
Y Person
Hanfodol
- Profiad perthnasol ymarferol o weithio ym maes adeiladu, gwaith saer a / neu ffabrigo metel, mewn amgylchedd theatr yn ddelfrydol.
- Gallu clir i ddarllen a deall cynlluniau technegol.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gyda'r gallu i gyfathrebu'n glir ac yn gyson â phob defnyddiwr theatr a gofod digwyddiadau, yn enwedig defnyddwyr annhechnegol.
- Dull trefnus o weithio gydag enw da am gadw at derfynau amser.
- Y gallu i ddefnyddio ystod eang o offer a pheiriannau gweithdy yn ddiogel ac yn hyderus.
- Y gallu i ddefnyddio ystod eang o offer pŵer cludadwy ac offer llaw yn ddiogel ac yn hyderus.
- Profiad o gadw at ofynion Iechyd a Diogelwch ac asesiadau risg.
- Hyderus wrth weithio'n annibynnol, ond hefyd parodrwydd i gydweithio ar draws llawer o adrannau.
- Y gallu i weithio oriau hyblyg ac anghymdeithasol, gan gynnwys gyda'r nos a rhai penwythnosau.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.