Torrwr
Disgrifiad Swydd

Mae Theatr Clwyd yn chwilio am Dorrwr Gwisgoedd profiadol ar gyfer contract tymor penodol sy'n cwmpasu tymor yr hydref sydd i ddod yma yn y theatr. Mae'r tîm Gwisgoedd yn gwasanaethu cynyrchiadau Theatr Clwyd i'r safonau uchaf posibl, gan ddefnyddio eu sgiliau mewn dehongli dyluniadau, torri patrymau a gwneud y gwisgoedd i ffitio'r perfformwyr.
Math o Gontract- Contract Tymor -04/08/2025 - 04/02/2026
Oriau - 37 yr wythnos
Y Rôl
Cyfrifoldebau allweddol
Cyffredinol
- Dehongli cynlluniau gwisgoedd drwy ddrafftio patrymau gan ymgynghori â'r cynllunydd a’r Rheolwr Gwisgoedd a Wigiau.
- Goruchwylio cynorthwywyr a chydlynu'r ystafell waith, gan roi gwybod i’r Rheolwr Gwisgoedd am gynnydd y gwaith.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Gwisgoedd a Wigiau i greu costau manwl gywir drwy roi cyngor am amseroedd creu a gofynion staff.
- Cymryd mesuriadau corff llawn a manwl gywir, amcangyfrif meintiau ffabrig a gofynion o ran deunyddiau ac wedyn archebu eitemau gyda chymeradwyaeth y Rheolwr Gwisgoedd a Wigiau.
- Torri patrymau mewn ffabrigau.
- Gweithio gyda’r Rheolwr Gwisgoedd a Wigiau i sicrhau hyfforddiant a monitro perfformiad staff achlysurol a llawrydd.
- Lilwio, creu ôl traul ar, a 'gorffen' gwisgoedd.
- Cynnal a chadw offer a chynghori ar ofynion cynnal a chadw a chyflawni'r holl ofynion Iechyd a Diogelwch perthnasol – gan ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer asesiadau risg neu ddatganiadau dull i'r Rheolwr Cynhyrchu.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn ôl yr angen yn unol â chais y Pennaeth Cynhyrchu neu'r Rheolwr Gwisgoedd a Wigiau.
Iechyd a Diogelwch
- Sicrhau bod yr holl ofynion Iechyd a Diogelwch yn cael eu bodloni bob amser wrth weithio.
- Sicrhau bod deunyddiau'n cael eu storio a’u defnyddio’n ddiogel a chydymffurfio â rheoliadau a chanllawiau'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (yn enwedig mewn perthynas â COSHH).
- Mynychu hyfforddiant yn ôl yr angen a chynnal ymwybyddiaeth o reoliadau iechyd a diogelwch sy'n benodol i'r gofod a'r offer a ddefnyddir.
- Sicrhau bod yr holl offer arbenigol yn cael ei gau i lawr yn gywir ar ddiwedd pob diwrnod gwaith
- Sicrhau bod yr holl beryglon posibl yn cael eu gwneud yn ddiogel cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl.
- Sicrhau bod yr holl offer yn cael ei storio'n ddiogel a'i fod yn hwylus i ddefnyddwyr awdurdodedig gael mynediad ato.
- Cynhyrchu asesiadau risg a datganiadau dull yn ôl yr angen
Y Person
Hanfodol
- Gradd neu debyg mewn Gwisgoedd Theatr, a hefyd profiad clir o dorri a phrofiad clir fel gwneuthurwr gwisgoedd ar gyfer cynyrchiadau theatr.
- Gwybodaeth fanwl am dorri gwisgoedd.
- Gwybodaeth Gwybodaeth fanwl am greu gwisgoedd.
- Gwybodaeth fanwl am brosesau lliwio, torri i lawr a gorffen.
- Gwybodaeth fanwl am hanes gwisgoedd a dulliau ymchwil.
- Gwybodaeth ymarferol am fyd y theatr yn y DU.
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth reoli, gan arwain, cyfarwyddo a chymell yr ystafell waith.
- Gallu rhagorol i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau.
- Dull hyblyg ac arloesol o weithio, gyda'r gallu i ddysgu ac integreiddio sgiliau newydd yn gyflym.
- Sylw rhagorol i fanylder.
- Enw da am weithio i derfynau amser tynn a threfnu baich gwaith mewn ffordd effeithlon.
- Dyfeisgarwch a'r gallu i beidio â chynhyrfu o dan bwysau.
- Y gallu i weithio yn unol â chyfyngiadau’r gyllideb.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.