Technegydd Gwisgoedd
Disgrifiad Swydd

Mae Theatr Clwyd yn chwilio am Dechnegydd Gwisgoedd profiadol ar gyfer contract tymor penodol sy'n cwmpasu tymor yr hydref sydd i ddod yma yn y theatr. Mae'r tîm Gwisgoedd yn gwasanaethu cynyrchiadau Theatr Clwyd i'r safonau uchaf posibl, gan ddefnyddio eu sgiliau mewn dehongli dyluniadau, torri patrymau a gwneud y gwisgoedd i ffitio'r perfformwyr.
Math o Gontract- Contract Tymor -01/09/2025 - 31/12/2025
Oriau - 37 yr wythnos
Y Rôl
Cyfrifoldebau allweddol
Cyffredinol
- O dan y Rheolwr Gwisgoedd a Wigiau a'r Torwyr Gwisgoedd, bod yn gyfrifol am greu ac addasu gwisgoedd i'r safonau uchaf posibl ac o fewn yr amser a'r gyllideb a neilltuwyd.
- Cynorthwyo gyda mesur actorion ac mewn ffitiadau.
- Atgyweirio a gwneud addasiadau a newidiadau i wisgoedd sydd wedi’u creu, eu llogi neu eu sicrhau.
- Cynorthwyo'r Rheolwr Gwisgoedd a Wigiau i reoli a chynnal a chadw stoc ac adnoddau'r adran gwisgoedd.
- Lliwio, creu ôl traul ar, neu wneud i wisgoedd edrych yn hŷn mewn ffordd arall, yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo yn ystod yr wythnosau cynhyrchu i sicrhau eu bod yn rhedeg yn esmwyth
- Ymgymryd â dyletswyddau Gwisgo a Chynnal a Chadw Gwisgoedd yn ôl yr angen.
- Ymgymryd â gwaith ymarferol mewn perthynas â ffitio, storio gwisgoedd ac offer gwisgoedd, ac arddangosfeydd gwisgoedd.
- Gweithio o fewn cyllidebau penodol a’r adnoddau sydd ar gael.
- Goruchwylio staff achlysurol a myfyrwyr ar leoliad yn ôl yr angen.
- Gweithio gyda'r nos, ar benwythnosau ac oriau hyblyg pan fo angen.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn ôl yr angen yn unol â chais y Pennaeth Cynhyrchu, y Rheolwr Cynhyrchu neu'r Rheolwr Gwisgoedd a Wigiau.
- Ymrwymiad i arferion gwaith cynaliadwy.
- Gweithio mewn dull cydweithredol gyda holl Aelodau Cwmni Theatr Clwyd.
Iechyd a Diogelwch
- Sicrhau bod yr holl ofynion Iechyd a Diogelwch yn cael eu bodloni bob amser wrth weithio.
- Sicrhau bod deunyddiau'n cael eu storio a’u defnyddio’n ddiogel a chydymffurfio â rheoliadau a chanllawiau'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (yn enwedig mewn perthynas â COSHH).
- Mynychu hyfforddiant yn ôl yr angen a chynnal ymwybyddiaeth o reoliadau iechyd a diogelwch sy'n benodol i'r gofod a'r offer a ddefnyddir.
- Sicrhau bod yr holl offer arbenigol yn cael ei gau i lawr yn gywir ar ddiwedd pob diwrnod gwaith.
- Sicrhau bod yr holl beryglon posibl yn cael eu gwneud yn ddiogel cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl.
- Sicrhau bod yr holl offer yn cael ei storio'n ddiogel a'i fod yn hwylus i ddefnyddwyr awdurdodedig gael mynediad ato.
- Helpu i gynhyrchu asesiadau risg a datganiadau dull ar gyfer yr adran gwisgoedd yn ôl yr angen.
Y Person
Hanfodol
- Profiad ymarferol, perthnasol o wneud gwisgoedd, yn ddelfrydol o fewn lleoliad neu gwmni cynhyrchu o faint tebyg.
- Cymwysterau mewn gwneud gwisgoedd i lefel uchel (Safon gradd neu gyfatebol).
- Hyfedredd wrth ddefnyddio peiriannau gwnïo lled-ddiwydiannol a pheiriannau trosgloi.
- Cymhwysedd uchel mewn gwnïo â llaw.
- Dull trefnus ond hyblyg o weithio gyda phrofiad llwyddiannus o gwrdd â therfynau amser, rheoli blaenoriaethau gwrthgyferbyniol a pheidio â chynhyrfu o dan bwysau.
- Gallu clir i weithio fel rhan o dîm ac i ddefnyddio blaengaredd.
- Gallu i fod yn greadigol ac yn ddyfeisgar wrth ddatrys problemau.
- Gwybodaeth ymarferol dda am feysydd arbenigol fel wigiau, gwneud gwisgoedd, gwaith teiliwr, lliwio, torri i lawr.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gyda'r gallu i gyfathrebu'n glir ac yn gyson â phob defnyddiwr yn y theatr a’r gofod digwyddiadau, yn enwedig defnyddwyr nad ydynt yn arbenigwyr.
- Gallu i ddelio'n ddoeth â sesiynau ffitio gwisgoedd i oedolion a phlant gan ddangos dealltwriaeth a gofal.
- Gallu i weithio oriau hyblyg ac anghymdeithasol gan gynnwys gyda’r nosau, penwythnosau a gwyliau banc.
- Lefel uchel o fanwl gywirdeb a sylw i fanylder.
- Ymrwymiad i ragoriaeth artistig.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.