Uwch Saer Golygfeydd
Disgrifiad Swydd

Mae Theatr Clwyd yn chwilio am unigolyn profiadol, gyda sgiliau mewn adeiladu set, gwaith saer a/neu waith metel, i fod yn rhan o dîm y Gweithdy Adeiladu Golygfaol. Gydag arbenigedd mewn adeiladu setiau, mae’r tîm hwn yn darparu gwasanaeth i gynyrchiadau Theatr Clwyd o’r safonau uchaf posibl, gan weithio yn ein gweithdy adeiladu newydd sbon ar y safle.
Disgrifiad Swydd
Math o Gontract - Parhaol
Oriau - 37 yr wythnos
Y Rôl
Cyfrifoldebau allweddol
Cyffredinol
- Dan reolaeth Rheolwr y Gweithdy, a chan ddefnyddio sgiliau adeiladu mewn gwaith saer a gwneuthuriad metel, bod yn gyfrifol am adeiladu setiau, props neu unrhyw eitem gynhyrchu yn ôl y gofyn, i'r safonau uchaf posibl ac o fewn yr amser a'r gyllideb a neilltuwyd.
- Goruchwylio'r Saer Golygfeydd ac aelodau eraill o dîm y gweithdy, lle bo hynny'n briodol, a helpu i gydlynu'r gweithdy, gan roi gwybod i Reolwr y Gweithdy am gynnydd y gwaith.
- Ar y cyd â Rheolwr y Gweithdy, helpu i gynllunio a rheoli llif gwaith yr adran ac arwain y tîm yn ystod y gwaith adeiladu, ffitio, symud allan a thynnu’r set i lawr yn ôl yr angen, gan sicrhau amgylchedd gwaith diogel a chydymffurfiaeth â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â gweithle diwydiannol (gan gynnwys PUWER, COSHH, LOLER).
- Dirprwyo a rheoli'r adran yn absenoldeb Rheolwr y Gweithdy.
- Gweithio ochr yn ochr â thimau Adeiladu a Golygfeydd i fod yn gyfrifol am amgylchedd gwaith glân, taclus a threfnus a sicrhau cynnal a chadw'r gweithdy o ddydd i ddydd.
- Cynorthwyo i archebu deunyddiau ac offer, monitro a chynnal lefelau stoc y gweithdy.
- Ochr yn ochr â Rheolwr y Gweithdy, rhoi'r holl wybodaeth ymarferol angenrheidiol i’r cynllunwyr.
- Cynorthwyo yn ystod wythnosau ffitio a chynhyrchu i sicrhau eu bod yn rhedeg yn esmwyth.
- Gwneud gwaith ymarferol mewn perthynas â symud i mewn, ffitio, tynnu’r set i lawr a symud allan, gan gynnwys cydosod, rigio, addasu a defnyddio golygfeydd, props, rigio ac offer codi.
- Gweithio gyda Rheolwr y Gweithdy i sicrhau hyfforddiant a monitro perfformiad y Saer Golygfeydd ac aelodau eraill o dîm y gweithdy.
- Dehongli cynlluniau a chynorthwyo i baratoi cynlluniau a darluniau gwaith, gan ddefnyddio CAD a rhaglenni eraill.
- Rhoi gwybod i Reolwr y Gweithdy os oes angen llogi neu brynu unrhyw offer arbenigol.
- Lle bo angen, darparu cymorth technegol i ddefnyddwyr allanol.
- Cysylltu â Rheolwr y Gweithdy a’r Rheolwr Celf Golygfeydd i helpu i sicrhau bod yr adran yn gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon drwy gydol y broses adeiladu, sy'n cynnwys gwaith adeiladu a golygfeydd.
- Mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen a chynrychioli'r adran yn absenoldeb Rheolwr y Gweithdy.
Iechyd a Diogelwch
- Sicrhau bod yr holl ofynion Iechyd a Diogelwch yn cael eu bodloni bob amser wrth weithio.
- Mynychu hyfforddiant yn ôl yr angen a chynnal ymwybyddiaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch sy'n benodol i'r gofod, y peiriannau a'r offer a ddefnyddir.
- Sicrhau bod yr holl offer arbenigol yn cael ei gau i lawr yn gywir ar ddiwedd pob diwrnod gwaith.
- Sicrhau bod yr holl beryglon posibl yn cael eu gwneud yn ddiogel cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl.
- Cynhyrchu asesiadau risg a datganiadau dull yn ôl yr angen ar gyfer prosiectau neu dasgau penodol.
Y Person
Hanfodol
- Profiad perthnasol ymarferol o weithio ym maes adeiladu, gwaith saer a / neu wneuthuriad metel, mewn amgylchedd gweithdy.
- Sgiliau a hyfforddiant sylweddol mewn dulliau adeiladu gan gynnwys gwaith saer / saernïaeth a / neu weldio a gwneuthuriad metel.
- Profiad clir o weithio mewn tîm a goruchwylio neu arwain prosiectau i'w cwblhau.
- Profiad clir o baratoi a dehongli cynlluniau a darluniau adeiladu, gyda gwybodaeth am CAD a rhaglenni eraill.
- Gallu i ddefnyddio a chynnal ystod eang o offer a pheiriannau gweithdy yn ddiogel ac yn hyderus.
- Gallu i ddefnyddio ystod eang o offer pŵer cludadwy ac offer llaw yn ddiogel ac yn hyderus.
- Meddwl y tu allan i’r bocs; gallu i gynnig atebion creadigol i wireddu cynllun gyda'r adnoddau sydd ar gael.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gyda'r gallu i gyfathrebu'n glir ac yn gyson â phob defnyddiwr theatr a gofod digwyddiadau, yn enwedig defnyddwyr nad ydynt yn dechnegol.
- Dull trefnus o weithio, gydag enw da am gwrdd â therfynau amser a rheoli blaenoriaethau sy’n gwrthdaro.
- Profiad o weithredu gofynion Iechyd a Diogelwch ac asesiadau risg.
- Hyder wrth weithio'n annibynnol, ond hefyd parodrwydd i gydweithredu ar draws llawer o adrannau.
- Gallu gweithio oriau hyblyg ac anghymdeithasol gan gynnwys gyda'r nos ac ar rai penwythnosau.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.