Dirprwy Reolwr Cynhyrchu
Disgrifiad Swydd

Mae Theatr Clwyd yn chwilio am Ddirprwy Reolwr Cynhyrchu i fod yn rhan o'r tîm Creu Theatr. Gyda phrofiad o weithio mewn amgylchedd theatr gynhyrchu, neu gymryd rhan arweiniol mewn rheoli llwyfan neu feysydd technegol wrth greu sioeau o'r dechrau un, bydd yr unigolyn yma’n gweithio ochr yn ochr â'n Rheolwr Cynhyrchu a’r Pennaeth Cynhyrchu i gynorthwyo gyda chyflwyno cynyrchiadau Theatr Clwyd i'r safonau uchaf posibl. Bydd y cyfleoedd fel rhan o’r rôl yma’n cynnwys ymgymryd â thasgau a chyfrifoldebau rheoli cynhyrchu ar amrywiaeth o gynyrchiadau. Bydd y Dirprwy Reolwr Cynhyrchu yn gweithio ochr yn ochr â'n timau Creu Theatr mewn Adeiladu Setiau, Celf Golygfaol, Goleuo, Sain a Chlyweledol a Gwisgoedd a Wigiau, i helpu i greu cynyrchiadau ar gyfer y ddau ofod theatr yn ein hadeilad newydd ei adnewyddu, ynghyd â phrosiectau a digwyddiadau ar draws ein sefydliad prysur.
Math o Gontract- Parhaol
Oriau - 37 yr wythnos
Y Rôl
- Fel rhan o'r tîm, rheoli cynyrchiadau Theatr Clwyd yn ôl yr angen.
- Ysgwyddo cyfrifoldeb am gynyrchiadau dan arweiniad Ymgysylltu Creadigol yn ôl yr angen.
- Cydlynu a goruchwylio safon uchel o ran cyflwyno golygfeydd, props, gwisgoedd, goleuadau, sain a phob agwedd arall ar gynhyrchu corfforol o fewn briffiau, cyllidebau ac amserlenni y cytunwyd arnynt.
- Cefnogi'r Rheolwr Cynhyrchu a defnyddio dull creadigol a blaengar o ddatrys problemau i sicrhau bod y tîm yn cydweithio'n braf, yn effeithiol ac yn gefnogol o fewn y sefydliad cyfan.
- Rheoli'r swyddogaethau cynhyrchu llawrydd ar sioeau mewnol yn ôl yr angen.
- Ar brosiectau penodol, bod yn gyfrifol am y cyllid, rheoli ymchwil ac adroddiadau ariannol cyllidebau cynhyrchu Theatr Clwyd yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cynhyrchu a’r Pennaeth Cynhyrchu.
- Wrth arwain cynhyrchiad, sicrhau bod timau creadigol ac artistiaid yn teimlo eu bod yn cael croeso, yn rhan o bethau ac yn cael eu cefnogi yn yr adeilad ac yn derbyn y lefel uchaf o gefnogaeth dechnegol bob amser.
- Cysylltu â gweithwyr creadigol gwadd i benderfynu ar yr anghenion technegol ar gyfer cynyrchiadau a chynghori ar ba bosibiliadau technegol y gall Theatr Clwyd eu cynnig.
- Cefnogi'r Tîm Cynhyrchu wrth gysylltu â rheolwyr cynhyrchu llawrydd a darparu cefnogaeth yn ôl yr angen.
- Rheoli wythnosau cynhyrchu, gan sicrhau bod ymarferion a chyfarfodydd cynhyrchu’n rhedeg yn esmwyth.
- Yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cynhyrchu, rheoli nifer o gynyrchiadau Theatr Clwyd yn fewnol ac ar daith.
- Cynnal a hyrwyddo arferion gwaith diogel yn unol â gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch.
- Cwblhau asesiadau risg a datganiadau dull a chydymffurfio â rheoliadau CDM fel maent yn berthnasol i gynyrchiadau theatr.
Y Person
Hanfodol
- Profiad o reoli cynhyrchu neu rôl arweiniol arall o fewn yr adrannau rheoli llwyfan neu dechnegol mewn theatr gynhyrchu neu gwmni cynhyrchu theatr, a / neu gymhwyster lefel gradd / cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Profiad clir o reoli ariannol gan gynnwys adrodd cyllidebol ac ariannol.
- Sgiliau cyfathrebu a thrafod rhagorol.
- Sylw rhagorol i fanylder.
- Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol, gyda'r gallu i reoli nifer o ffrydiau gwaith a gweithio dan bwysau.
- Lefel uchel o wybodaeth am bob disgyblaeth dechnegol yn y theatr a disgyblaethau cynhyrchu.
- Sgiliau drafftio a phrofiad o ddefnyddio meddalwedd CAD.
- Gwybodaeth weithredol dda am ddeddfwriaeth drwyddedu ac Iechyd a Diogelwch.
- Ymrwymiad i ragoriaeth artistig.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.