Cynorthwyydd Cadw Tŷ (Neuadd William Aston) - Tymor Penodol
Disgrifiad Swydd

Dewch i ymuno â'r tîm yn William Aston Hall fel Cynorthwyydd Cadw Tŷ ar sail tymor penodol o 6 mis a helpu ni greu amgylchedd glan a chyfeillgar i gynulleidfaoedd, perfformwyr ac ymwelwyr. Byddwch yn cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau glanhau ar draws ein lleoedd, gan weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm cefnogol i gynnal safonau uchel. Rydym yn chwilio am rywun dibynadwy, sy'n falch o'i waith, yn gallu dilyn cyfarwyddiadau'n gywir, ac yn hyblyg i weithio yn y bore, nosweithiau, penwythnosau a gwyliau pan fo angen. Mae profiad blaenorol mewn glanhau yn ddymunol, ond mae agwedd gadarnhaol, ethos gwaith cryf ac ymrwymiad i safonau rhagorol yn bwysicaf.
Math o Gontract- Tymor Penodol
Oriau - 15 yr wythnos
Y Rôl
Cyfrifoldebau allweddol
- Gwagio biniau gwastraff ac ailgylchu neu gynwysyddion tebyg, cludo deunydd gwastraff i bwyntiau casglu penodol.
- Ysgubo lloriau gyda brwshys neu fopiau rheoli llwch.
- Mopio lloriau gyda mopiau gwlyb neu laith.
- Hwfro a glanhau carpedi a rygiau.
- Defnyddio peiriannau sgwrio / sgleinio wedi'u pweru'n electronig i sgwrio, sgleinio, chwistrellu a glanhau lloriau.
- Tynnu llwch, sychu gyda chadach llaith, golchi neu sgleinio dodrefn, silffoedd, silffoedd ffenestri ac arwynebau allanol cypyrddau, rheiddiaduron, silffoedd a ffitiadau.
- Ail-lenwi eitemau traul (sebon, papur toiled, tywelion papur) os oes angen.
- Glanhau toiledau, iwrinalau, basnau llaw a sinciau.
- Defnyddio deunyddiau cemegol yn ôl yr angen wrth gyflawni unrhyw weithredoedd glanhau neu weithdrefnau cynnal a chadw wrth gadw at ganllawiau ar gyfer defnydd.
Y Person
Hanfodol
- Gwybodaeth am ddyletswyddau cadw tŷ cyffredinol.
- Gallu dilyn cyfarwyddiadau a chyflawni tasgau dirprwyedig yn gywir yn effeithiol ac o fewn amserlenni penodol.
- Parodrwydd i weithio oriau hyblyg, gan gynnwys gyda'r nosau, penwythnosau a gwyliau.
- Prydlon a dibynadwy.
- Gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel aelod o dîm i gyrraedd safonau penodol.
- Bod yn hyblyg i ofynion y swydd fel maen nhw’n newid.
- Ymfalchïo mewn gwaith da.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.