Cynorthwy-ydd Perfformiadau
Disgrifiad Swydd

Ydych chi'n angerddol am ddigwyddiadau byw, gwasanaethau cwsmeriaid, a gwneud pob profiad cynulleidfa yn fythgofiadwy? Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwywyr Perfformiadau brwdfrydig a dibynadwy i ymuno รข'n tรฎm ni.
Math o Gontract- Parhaol
Oriau:
2 rรดl - 20 yr wythnos
1 rรดl - 16 yr wythnos
Y Rรดl
Pwrpas y Swydd
Croesawu pob ymwelydd i Theatr Clwyd gan sicrhau eu bod yn teimlo'n gartrefol ac yn ddiogel bob amser, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf bob amser.
Cyffredinol allweddol
- Tywys mewn digwyddiadau a gweithgareddau yn Theatr Clwyd ac, weithiau, oddi ar y safle, gan roi cyfarwyddiadau, cyngor gwybodus, gwirio a sganio tocynnau a chyflawni gweithdrefnau brys pan fo angen.
- Arwain a chefnogi'r Tywyswyr Gwirfoddol ar shifft.
Gwasanaethau Cwsmeriaid
- Darparu croeso cynnes ac agos atoch chi a cheisio darparu gwasanaeth sy'n rhagori ar ddisgwyliadau ein hymwelwyr.
- Bod yn wybodus am bolisรฏau a gweithdrefnau, cyfleusterau a digwyddiadau Theatr Clwyd er mwyn gallu darparu gwasanaeth gwybodus.
Tywys
- Gwirio a sganio tocynnau a sicrhau mai dim ond deiliaid tocynnau dilys sy'n cael mynediad i'r ardaloedd penodol.
- Bod yn gyfarwydd รข'r gofynion mynediad amrywiol sydd gan bobl; darparu cymorth rhesymol a sicrhau bod eu profiad mor gynhwysol รข phosibl.
Diogelwch a diogeledd
- Cwblhau archwiliadau rheolaidd ar yr allanfeydd brys a'r llwybrau i sicrhau eu bod yn rhydd o rwystrau.
- Nodi a gweithredu neu adrodd ar risgiau a allai godi cyn, yn ystod ac ar รดl sioeau / digwyddiadau.
Gwerthiant
- Gwerthu hufen iรข, rhaglenni ac unrhyw eitemau eraill yn รดl yr angen, gan gadwโr ardaloedd gwerthu, yn ogystal ag ardaloedd yr ystafell stoc, yn daclus.
Arall
- Ymgymryd รข gwaith gweinyddol rhesymol pan fo angen.
Y Person
Hanfodol
- Dyfinder sylweddol o sgil a phrofiad mewn rheoli cynhyrchu mewn theatr gynhyrchu a / neu gymhwyster lefel gradd / cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Profiad clir o reoli timau.
- Profiad clir o reolaeth ariannol gan gynnwys adrodd cyllidebol ac ariannol.
- Sgiliau drafftio rhagorol a phrofiad helaeth o ddefnyddio meddalwedd CAD
- Gwybodaeth ymarferol drylwyr am ddeddfwriaeth drwyddedu ac Iechyd a Diogelwch.

Apply for the role / Gwnewch gais am y rรดl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirioโn awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd iโr Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rรดl hon.