Cynhyrchydd Cymunedol - Tymor Penodol
Disgrifiad Swydd

Rydyn ni'n chwilio am Gynhyrchydd Cymunedol sy'n gyfrifol am reoli gwaith Creadigol a Chymunedol Theatr Clwyd, gyda ffocws penodol ar theatr ieuenctid, grwpiau cymunedol ac iechyd a lles.
Math o Gontract- Tymor Penodol
Oriau - 37 yr wythnos
Y Rôl
POBL IFANC
- Cefnogi cyflwyno rhaglen weithdai wythnosol Theatr Clwyd mewn perfformio, creu theatr, dawnsio a'r celfyddydau gweledol yn llwyddiannus.
- Cynhyrchu'r holl gyfleoedd rhannu a dathlu ar gyfer pob grŵp gweithdy wythnosol drwy gydol y flwyddyn.
- Gweithio gyda Chysylltiadau Creadigol i sicrhau ein bod yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc weld cynyrchiadau, datblygu sgiliau, cwblhau cymwysterau a chymryd rhan mewn perfformiadau o ansawdd uchel.
- Gweithio gyda'r Tîm Marchnata ar weithgarwch allgymorth a hyrwyddo i ymgysylltu â phobl ifanc a sicrhau bod targedau ymgysylltu ac incwm yn cael eu cyrraedd.
- Canolbwyntio ar archwilio mwy o ffyrdd o wneud ein grwpiau ni ar gyfer pobl ifanc yn hygyrch i bawb a gweithredu proffiliau.
OEDOLION
- Cefnogi Cysylltiadau Creadigol i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel ar gyfer ein grwpiau oedolion a phobl hŷn, gan sicrhau cyfleoedd i gyfranogwyr weld a chymryd rhan mewn theatr, dawns, cerddoriaeth a'r celfyddydau gweledol.
- Gweithio gyda Phenaethiaid Ymgysylltu Creadigol i ddod o hyd i bartneriaid newydd a'u rheoli i ddatblygu ein rhaglen Iechyd a Lles.
PROSIECTAU A CHYNYRCHIADAU CYMUNEDOL
- Arwain y gwaith o gynhyrchu rhai prosiectau / cynyrchiadau Ymgysylltu Creadigol pwrpasol yn y gymuned.
- Ar y cyd â'r cynhyrchydd llinell, cefnogi pob elfen gymunedol o'n gwaith sy’n cael ei gynhyrchu ar ein llwyfannau.
- Cefnogi a chynnal perthnasoedd yn y gymuned leol ac yn ehangach.
STRATEGAETH, CYNLLUNIO A RHEOLI
- Sicrhau bod prosiectau wedi'u cyllidebu, eu cynllunio a'u gwerthuso'n ddigonol, gyda diogelu a rheoli risg priodol ar waith.
- Gweithio gyda’r Penaethiaid Ymgysylltu Creadigol i gefnogi partneriaethau gyda sefydliadau cymunedol.
- Sicrhau bod yr holl waith Ymgysylltu Creadigol yn cael ei gofnodi drwy Upshot, a bod casglu data cadarn yn ei le ar gyfer adrodd i gyllidwyr.
- Cefnogi cyllidebau ac adnoddau sy’n cael eu neilltuo gan y Penaethiaid Ymgysylltu Creadigol a chyfrannu at gyflawni targedau incwm.
- Cyfrannu at gyflawni'r canlyniadau a'r targedau yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb, gan sicrhau bod gwaith ymgysylltu creadigol yn cyrraedd cyfranogwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
- Ysgwyddo cyfrifoldeb am weithdrefnau ac arferion diogelu a hyrwyddo arferion da mewn diogelu ar draws y sefydliad.
- Sicrhau cysylltiadau ag adran gerddoriaeth Theatr Clwyd a goruchwylio gwaith cydweithredol mewn cymunedau lleol gyda nhw.
CYFFREDINOL
- Gweithio ar draws adrannau i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyfathrebu a’u rheoli’n ddigonol ac yn cael adnoddau digonol hefyd.
- Gweithio gyda'r Tîm Datblygu, gan ddarparu gwybodaeth ac adroddiadau gwerthuso i gefnogi cyllid prosiectau.
- Cadw gwybodaeth weithredol am arferion rhanbarthol a chenedlaethol mewn ymgysylltu â'r celfyddydau, gyda ffocws penodol ar arferion cymunedol a chydweithredol.
- Gweithio er budd gorau'r theatr ac yn unol â pholisïau'r cwmni, gan gynnwys iechyd a diogelwch, amddiffyn, diogelu data a TG; a sicrhau bod pob gweithgaredd ymgysylltu creadigol yn cael ei gynllunio yn unol â pholisi'r cwmni.
- Bod yn llysgennad gweithredol ar ran Theatr Clwyd, gan ddarparu'r lefel uchaf o ofal cwsmeriaid a hyrwyddo gwaith y theatr a’i gweithgarwch codi arian.
- Ymgymryd â dyletswyddau eraill ar gais y Penaethiaid Ymgysylltu Creadigol.
Y Person
- Profiad sylweddol o gynllunio a rheoli prosiectau celfyddydau creadigol.
- Profiad clir o reoli cyllidebau.
- Profiad sylweddol o baratoi adroddiadau gwerthuso ar gyfer prosiectau a ariennir.
- Profiad o arferion a gweithdrefnau diogelu.
- Gweithio ar y cyd ac yn greadigol gyda phobl ifanc a chymunedau, gan ddangos sgiliau cyfathrebu rhagorol.
- Hunanddibynnol gyda'r gallu i weithio ar eich liwt eich hun, blaenoriaethu a threfnu baich gwaith, a chadw at derfynau amser.
- Angerddol am gyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y celfyddydau.
- Ymrwymiad clir i gynhwysiant ac amrywiaeth.
- Y gallu i arddangos safonau ymarfer rhagorol wrth weithio mewn lleoliadau cymunedol.
- Dealltwriaeth gadarn o gyfrifiaduron a hyder wrth ddefnyddio Microsoft Office.
- Barn greadigol gyda'r gallu i gefnogi ymarferyddion, rhoi adborth ac adnabod syniadau da.
- Archwiliad DBS.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.