Mae gan Theatr Clwyd raglen uchelgeisiol ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd i gefnogi pobl sy'n defnyddio'r celfyddydau gyda'u hiechyd a'u lles. Rydym yn bartner i'r bwrdd iechyd lleol ac elusennau iechyd i ddatblygu prosiectau pwrpasol sy'n cefnogi iechyd meddyliol a chorfforol pobl.

Dyma rai o'n prosiectau:

Celf oโ€™r Gadair Freichiau

Maeโ€™n dod รข phobl sy'n byw gyda dementia a cholled cof cynnar a'u gofalwyr at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithdai hwyliog, heb fod mewn lleoliad clinigol. Mae'r sesiynau'n defnyddio gemau i ysgogi cyhyrau gwybyddol cyn i'r grลตp gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n digwydd ar draws yr adeilad. Maen nhw wedi creu mygydau gyda'n timau wardrob, wedi mynd i gefn y llwyfan ar set Home, I'm Darling ac wedi paentio rhywfaint o set Mold Riots gyda'n tรฎm golygfeydd.

Cefnogwyd gan Lyan Packaging a Arts & Business Cymru.

Dawns, Drama a Cherddoriaeth ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol

Wediโ€™i ddechrau yn ystod y pandemig mae'r grลตp hwn yn cyfarfod ar-lein ac maeโ€™r cyfranogwyr yn ymuno o bob rhan o Gymru. Mae'r grลตp yn llunio dilyniannau dawns gan ddefnyddio eu hoff bethau fel ysbrydoliaeth, fel gwyliau a cherddoriaeth. Mae cerddor byw yn cyfeilio iโ€™w symudiadau dawns ac maeโ€™n byrfyfyrio gydaโ€™u symudiadau.

Canu er lles yr Enaid

Wedi'i greu i gefnogi pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl cronig, caiff y cyfranogwyr eu hatgyfeirio gan y bwrdd iechyd lleol. Mae'r grลตp wedi gwneud sylwadau ar y manteision gwych maent yn eu cael o fynychu, gan gynnwys y ffrindiau maent wedi'u gwneud.

"Nid ywโ€™n feddyginiaeth fel y cyfryw ond mae'n feddyginiaeth i mi gan ei fod mor llawen a dyna'r prif beth i mi."

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen Celfyddydau ac Iechyd, cysylltwch รข development.trust@theatrclwyd.com