Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 28 Hydref
Mae Theatr Clwyd yn cyflwyno Stiwdio Gigs, gigs clyd a phersonol gan gerddorion o safon byd.
Ymunwch â ni yn ein gofod newydd, sef Stiwdio Anne Duges Westminster, am noson o gerddoriaeth gyda cherddorion o Gymru a ledled y byd.
Mae'r cerddorion enwog Tomos Williams, Aidan Thorne a Matt Holmes yn dod at ei gilydd i ffurfio triawd newydd cyffrous dan arweiniad y trwmped.
Mae Tomos Williams wedi ysbrydoli cynulleidfaoedd gyda'i brosiectau 'Cwmwl Tystion' sy'n procio'r meddwl ac wedi ailddychmygu cerddoriaeth werin draddodiadol.
Mae Aidan Thorne yn arwain y band arloesol 'Duski' ac wedi archwilio tirwedd Cymru mewn prosiectau deuawd.
Mae Matt Holmes yn seren newydd yn sîn jazz y DU, gan gyfansoddi cerddoriaeth newydd a pherfformio gyda sêr mawr y byd jazz fel Hermeto Pascoal a Tony Kofi.
Tomos Williams
Cerddor