Mae ensembleau Cerddorol Theatr Clwyd ac aelodau Theatr Ieuenctid Theatr Clwyd o Ysgol Maes Garmon yn adrodd stori llygoden fach sy’n darganfod gwir ystyr y Nadolig yn lleoliad hardd Eglwys y Santes Fair, yr Wyddgrug.
Bydd ein perfformiad yn cynnwys cerddoriaeth gan ein Côr Hŷn, Cerddorfa Llinynnol a’n Band Chwyth Hŷn, ynghyd â darlleniadau a golygfeydd a gyflwynir gan ddisgyblion Ysgol Maes Garmon.
