Treulio amser gyda ffrindiau, partïo’n wyllt, colli eich gwyryfdod… Dyna sut mae'r rhan fwyaf o ferched yn eu harddegau’n treulio eu haf olaf cyn troi'n 18 oed.
Ond nid Ivy.
Mae gan ei rhieni awdurdodol gariadus gynlluniau eraill ar ei chyfer: pedair wythnos mewn gwersyll i oedolion ifanc sydd wedi'u heffeithio gan ganser. Mae chwiliad cyflym ar Google yn cadarnhau ei hofnau gyda hysbyseb hyrwyddo gwael - machlud haul, croesbylu, popeth mae iMovie yn gallu ei chwydu. Fel pe bai trechu canser ddim yn ddigon, nawr mae'n rhaid iddi fynd i wersyll haf.
Ond mae’r 'camp cemo' yn fwy ysbrydoledig na’r disgwyl. Mae hi'n cyfarfod pobl wahanol, debyg iddi hi sydd jyst eisiau ‘fuck shit up’ a byw bywyd i'r eithaf - sniffian cyffuriau presgripsiwn, yfed fodca, nofio’n noeth... ac efallai, hyd yn oed, syrthio mewn cariad.
Mae Sunny Dancer yn gomedi ramantus am ddod i oed sy'n dathlu cariad, cyfeillgarwch a herio adfyd: teimlo'n fyw iawn tra mae gan y byd gynlluniau eraill.
Mae Escapesyn cynnig cyfle i bawb gamu allan o fywyd bob dydd ac i mewn i hud y sinema - am ddim!
Gyda chefnogaeth y BFI, sy'n dyfarnu cyllid y Loteri Genedlaethol, mae Escapes yn fenter genedlaethol sy'n gwneud sinema yn fwy hygyrch i bawb. Gyda dangosiadau mewn nifer fawr o sinemâu annibynnol ledled y DU, Escapes yw eich gwahoddiad chi i ymlacio a chael eich cludo i straeon ar y sgrin fawr. O ragddangosiadau cyffrous o ffilmiau newydd a ffilmiau mawr poblogaidd i raglenni dogfen sy'n procio’r meddwl, mae pob ymweliad yn cynnig cyfle i ddianc. Mae pob dangosiad yn cynnwys is-deitlau disgrifiadol, fel bod pawb yn gallu mwynhau'r profiad.
