
Stori Fach
Mercher 16 Medi - 30 Mehefin 27
Straeon, crefftau a hwyl creadigol!
Ymunwch â ni am fore dydd Mercher hudolus yn llawn straeon, crefftau a hwyl creadigol y bydd y teulu cyfan wrth eu bodd ag e! Dewch at eich gilydd am straeon hudolus sy'n cael eu hadrodd gan ein storïwyr cyfareddol ni, ac wedyn gadewch i'ch dychymyg redeg yn wyllt gyda chelf a chrefft. O straeon i gynhesu'r galon i ffyn glud gliter.
Yn para tua 75 munud, mae'r sesiwn greadigol yma wedi'i chynllunio ar gyfer plant dan 5 oed a'u teuluoedd.
Addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg!
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gyflwyno gan Ymgysylltwyr Creadigol Theatr Clwyd
Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?
Tymor yr Hydref: Dydd Llun 14 Medi – Sad 12 Rhagfyr
Hanner Tymor: 26 Hydref – 31 Hydref (Dim sesiynau)
Tymor y Gwanwyn: Llun 4 Ionawr – Sad 13 Mawrth
Hanner Tymor: 8 Chwefror – 13 Chwefror (Dim sesiynau)
Tymor yr Haf: Dydd Llun 5 Ebrill – Sad 3 Gorffennaf
Hanner Tymor: 31 Mai 2024 – 5 Mehefin
FAQ's
Goruchwyliaeth
Dylai Rhieni / Gwarcheidwaid fod gyda'u plant drwy gydol y sesiwn - mae'r sesiwn wedi'i chynllunio o amgylch rhannu llawenydd darllen gyda'n gilydd.
Cadeiriau Gwthio a Newid Babanod
- Mae gennym ni le ar gyfer cadeiriau gwthio
- Mae cyfleusterau newid babanod ar gael (ac maen nhw'n neis iawn!)
Bwyd a Diod
I Blant:
Mae'n iawn i chi ddod â byrbrydau a diod i'ch plentyn, ond rydyn ni'n gofyn i oedolion beidio â dod â'u bwyd a'u diod eu hunain.
I Oedolion:
Mae gennym ni fwyty / bar / caffi hyfryd lle mae coffi, brecwast, byrbrydau a chacennau blasus ar gael (fe fydd gennym ni ddigon o gaffein ar eich cyfer chi).
Ydych chi’n barod i ymuno â ni?
Cysylltwch â'n tîm swyddfa docynnau cyfeillgar i sicrhau eich lle:-
Ffoniwch ni: 01352 344101
Anfonwch e-bost atom:box.office@theatrclwyd.com