Spectrwm o’r Golwg

See dates and times   –

Gosodiad Celf gan Bridie Doyle Roberts

Rhannu effaith personol colli golwg mewn gosodiad celf theatrig ymgollol a grëwyd gan yr arlunydd Bridie Doyle-Roberts.

Ar ôl darganfod bod ganddi gyflwr dirywiol ar ei llygaid, mae Bridie Doyle-Roberts yn camu i fyd ansicr lle mae dallineb yn dynesu.

Trwy ddefnyddio ei thaith bersonol hi wrth golli ei golwg mae Bridie yn creu ymdeimlad o berygl ac ansicrwydd os na allwch ymddiried yn yr hyn y mae eich llygaid yn ei ddweud wrthych. Mae eitemau domestig fel cadeiriau a lampau, sy’n amrywio o ran y peryglon y maent yn eu creu, a seinwedd driphlyg o farddoniaeth ddwyieithog, synau naturiol a chyfansoddiad cerddorol (y gellir eu clywed trwy setiau pen) yn creu profiad personol ac ymgollol lle gall y gynulleidfa archwilio’r gweithiau celf trwy eu teimlo.