Mae Richard Durrant a'r band eisoes yn paratoi dathliad cerddorol eleni o Ganol Gaeaf Ynysoedd Prydain. Ar gyfer y dyddiadau gaeaf yma yn y DU, bydd y cyfansoddwr arobryn a'r meistr ar y gitâr yn cael cwmni tri o'i blant cerddorol unwaith eto, sef Rooney, Daisy a Django Durrant, ynghyd â'r gantores a'r actores Amy Kakoura a'r meistr ar yr harpsicord, Howard Beach.
Bydd taith gaeaf Songs of the Solstice 2025 y band yn cyd-fynd â rhyddhau Ice Garden - albwm newydd o draciau stiwdio a recordiadau byw o daith y llynedd.
Mae'r sioeau yma wedi dod yn draddodiad Nadoligaidd i gynulleidfaoedd ledled y DU sydd wedi dod yn hoff iawn o gymysgedd unigryw Durrant o Gerddoriaeth Gynnar, Cerddoriaeth Werin Brydeinig, a chaneuon tymhorol Clasurol, Paganaidd a Christnogol. Mae casgliad cynyddol hefyd o ddeunydd gwreiddiol y mae pob aelod o'r band rhyfeddol yma wedi cyfrannu ato.
Mae sŵn lleisiol, chwe rhan cyfoethog y band yn cael ei arwain gan lais unigryw Amy gyda bas Rooney, acordion Daisy, offerynnau taro Django a chwarae gan ddau feistr o safon byd - Durrant ar y gitarau a Beach ar yr allweddellau.
Fel y clywyd ar BBC 6 Music.