National Emergency Briefing

See dates and times  

Dangosiad cymunedol arbennig: The People’s Emergency Briefing #PEBuk.

Beth sy'n digwydd i'r hinsawdd a byd natur, a beth mae hynny'n ei olygu i fywyd bob dydd yn y DU?

Ymunwch â ni ar gyfer dangosiad o People’s Emergency Briefing – ffilm sy'n agor ein llygaid ni ac yn dod â naw gwyddonydd ac arbenigwr blaenllaw o'r DU at ei gilydd i gyflwyno'r dystiolaeth ddiweddaraf a'r rheswm pam ei bod hi'n bwysig o ran materion fel:

🌧️ Tywydd eithafol
🍞 Diogelwch bwyd
🏥 Iechyd
💷 Costau byw

Mae'r ffilm yn seiliedig ar y Briff Argyfwng Cenedlaethol yn San Steffan (a gafodd sylw gan ITV, Channel 4 a The Times) gydag ymddangosiadau gan Chris Packham, Deborah Meaden ac amrywiaeth o leisiau o bob rhan o'r DU. Ar ôl y ffilm, bydd trafodaeth agored fer yn cael ei chynnal am beth mae hyn yn ei olygu i'n cymuned ni a beth gallwn ni ei wneud yn lleol.

Dewch â ffrind, cymydog neu aelod o'r teulu: mae croeso i bawb.