Dowch i wneud sŵn yr haf ‘ma yn Ysgol Gerdd yr Haf, TheatrClwyd!
Dowch i ddatgloi eich potensial cerddorol yr haf ‘ma, wrth ddysgu sgiliau newydd, chwarae gyda’ch gilydd fel grŵp a pherfformio i’ch teulu a ffrindiau yn ein lleoliad proffesiynol. Drwy gydol yr wythnos, byddwch yn gweithio gyda’n tîm gwych o gymdeithion cerdd, yn chwarae gemau cerddorol, yn rhoi cynnig ar offerynnau newydd, yn defnyddio’ch llais a hyd yn oed cyfansoddi cerddoriaeth newydd sbon gyda’ch gilydd. Fydd bob diwrnod yn wahanol, a bydd yr wythnos yn cyrraedd uchafbwynt wrth i chi rannu’n efo’ch teulu a ffrindiau yn anffurfiol.
Fel rhan o’r profiad, fydd cyfle o bob un ddaw i’r weithgaredd fwynhau daith ungryw y tu ôl i’r llenni, gan gynnig cipolwg ar sut mae ein cynyrchiadau’n cael eu gwneud. Does dim angen profiad blaenorol – p’un a ydych yn ddechreuwr offerynnol neu eisioes yn chwarae. Dewch draw, a dysgwch rywbeth newydd a magu hyder a chael hwyl!
FAQs
Beth ddylai fy mhlentyn ei wisgo?
Gwnewch yn siŵr bod eich person ifanc yn gwisgo dillad cyfforddus y gall symud ynddynt, fel legins neu drowsus loncian, ynghyd ag esgidiau addas fel trainers.
Beth am ginio?
Dylai cyfranogwyr ddod â phecyn cinio. Mae egwyl ginio 30 munud wedi'i threfnu bob dydd.
Pryd mae'r rhannu?
Bydd y rhannu anffurfiol yn digwydd am 2:30pm brynhawn Gwener.
Pwy fydd yn arwain y sesiynau?
Bydd y sesiynau’n cael eu harwain gan Gynorthwy-wyr Creadigol profiadol Theatr Clwyd.