Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 28 Hydref
The most feel-good show in townThe Daily Mail
Mae Looking For Me Friend wedi lledaenu hiraeth a chwerthin ledled y DU ac mae wedi cael sêl bendith ffrindiau ysgol a chydweithwyr Victoria ei hun.
Yn cynnwys seren ‘All Together Now’ ar BBC1, Paulus The Cabaret Geek “King of Cabaret” (The Stage) gyda Michael Roulston (Fascinating Aïda) ar y piano, mae'n noson o lawenydd pur yn llawn caneuon mwyaf poblogaidd Victoria, gan gynnwys yr eiconig ‘Ballad of Barry & Freda’ (Let’s Do It) a'r clasur ‘It Would Never Have Worked’.
Mae'r sioe yma ar gyfer dilynwyr Victoria a'r rhai sydd heb ei darganfod eto, i ddod at ei gilydd a mwynhau ei dewiniaeth syfrdanol gyda geiriau.
Wrth adrodd stori Victoria, mae Paulus yn datgelu ei stori ei hun. Stori berthnasol am blentyndod yn y 1970au a'r hyn y mae dod o hyd i'ch llwyth wir yn ei olygu.
Felly, estynnwch am eich stilettos a’ch maneg bopty, gwisgo eich slacs coctel ac amdani i archebu!