Llanast!

See dates and times  

2 fam, 2 dad, 2 fab × wisgi, tiwlips a ffôn = llanast!

Mae dau bâr o rieni yn cwrdd i drafod ymddygiad eu plant anystywallt - mae plentyn un ohonynt wedi brifo plentyn y llall mewn parc. Mae’r cyfarfod yn cychwyn yn o gall, a’r pedwar yn ddigon bonheddig, ond wrth i amser fynd yn ei flaen mae ymddygiad y pedwar yn mynd yn fwyfwy plentynnaidd, a diolch i botel o Benderyn, daw’r cyfarfyddiad i ben mewn anhrefn llwyr! Mae chwarae’n troi’n chwerw go iawn yn y ddrama ddoniol, ddeifiol hon.


Cyfarwyddo: Betsan Llwyd
Cyfieithiad Gareth Miles o ‘Le Dieu du Carnage’ gan Yasmina Reza
Cast : Sion Emyr, Gwenllian Higginson, Manon Wilkinson a Carwyn Jones.