Ledi'r Wyrcws

See dates and times  

Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 28 Hydref

Mae’n 1955, oes yr NHS newydd, ond mae’r wyrcws yn sefyll o hyd, a rhai o’i drigolion yn garcharorion tlodi ers hanner canrif a mwy. Daw dwy fenyw o gefndiroedd hollol wahanol wyneb yn wyneb, y naill yn cludo traddodiad a’r llall yn gobeithio diogelu’r traddodiad hwnnw. Ond wrth ganu, recordio a thrafod caneuon gwerin, daw hanes cudd i’r golwg.

Perfformiwyd LEDI’R WYRCWS deirgwaith ym mis Ionawr 2025, gyda pherfformiadau nos yn Galeri a Neuadd Dwyfor (Pwllheli) bron yn gwerthu allan, Roedd yr ymateb yn ardderchog; er enghraifft, dywedodd un aelod o'r gynulleifa a'i gwelodd hi yn Galeri hyn amdani: 'drama hollol wych - wedi mwynhau'n fawr - cynnil, slic, trist, pwerus a llawer mwy - mae angen mynd a hon ar daith!' A dyma farn adolygydd a’i gwelodd hi yn Neuadd Dwyfor: ‘Drama i’w phrofi sawl gwaith drosodd yw hon, a’r plygiadau ynddi yn amlygu eu hystyron o’r newydd. Drama i’n procio a’n pryfocio ac i herio rhagdybiaethau salw ein cyfnod enbyd ni. Drama hanesyddol a hynod gyfoes ar yr un pryd. Mae cymaint yn y ddrama hon fel ei bod yn anodd gwybod lle mae dechrau ei thrafod.’

Y cast: Morfudd Hughes, Owen Arwyn a Judith Humphreys

Cynhyrchu: Galeri, Caernarfon.