Llwybr Treftadaeth

See dates and times   –

Eisiau gweld cefn y llwyfan?
Dod i wybod sut mae theatr yn cael ei chreu?
Dysgu am hanes Theatr Clwyd?
Cael Phylip Harries fel eich tywysydd personol efallai?

Mae ein profiad sain Hud Real yn siwrnai adrodd straeon dywys sy'n mynd â chi o amgylch ein hadeilad ni, dan arweiniad yr unigryw Phylip Harries, Dêm Panto Theatr Clwyd.

Cyfle i glywed y straeon y tu ôl i'r llenni, gan gynnwys gan y seren ffilm Rhys Ifans, enillydd BAFTA Katherine Parkinson, Steffan Rhodri o Gavin & Stacey a llawer mwy. O weld yr hen stiwdio deledu i'r gweithdy a'r ffrâm baent lle mae sioeau'n cael eu creu o'r dechrau un - mae'n gyfle i archwilio tu ôl i'r llenni.

Y cyfan sydd arnoch chi ei angen ar gyfer y daith sain am ddim yma ydi clustffonau a ffôn. Gallwch archebu eich tocynnau am ddim isod ac mae ar gael o 10am i 4pm ar y dyddiad o'ch dewis chi. Dylai'r daith gymryd rhwng 30 a 50 munud i'w chwblhau ac mae'n dechrau o'r Ddesg Groeso yn Theatr Clwyd.

Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol