24 Hour Party People - Escapes Screening Gradd 18.

See dates and times  

Manceinion 1976: Mae cyflwynydd Granada TV, Tony Wilson, mewn cyngerdd gan y Sex Pistols. Wedi'i ysbrydoli'n llwyr gan y foment greiddiol yma yn hanes cerddoriaeth, mae o a'i ffrindiau’n sefydlu label recordio, Factory Records, ac yn arwyddo nifer o fandiau lleol a fyddai'n mynd ymlaen i fod yn rhai o artistiaid mwyaf dylanwadol eu cyfnod. Yn gyntaf, Joy Division, sy'n datblygu i fod yn New Order; ac wedyn yr Happy Mondays.



Ac wedyn fe gawn ni stori ddigrif a thywyll am gerddoriaeth, rhyw, cyffuriau, cymeriadau bythgofiadwy, a geni un o glybiau dawns enwocaf y byd, The Haçienda. Yn cael ei hadrodd drwy lygaid un dyn oedd yng nghanol y cyfan o’r dechrau un, mae 24 HOUR PARTY PEOPLE yn cofnodi mewn dull graffig iawn yr egni a wnaeth Mad-chester y lle i fod.


Mae Escapesyn cynnig cyfle i bawb gamu allan o fywyd bob dydd ac i mewn i hud y sinema - am ddim!

Gyda chefnogaeth y BFI, sy'n dyfarnu cyllid y Loteri Genedlaethol, mae Escapes yn fenter genedlaethol sy'n gwneud sinema yn fwy hygyrch i bawb. Gyda dangosiadau mewn nifer fawr o sinemâu annibynnol ledled y DU, Escapes yw eich gwahoddiad chi i ymlacio a chael eich cludo i straeon ar y sgrin fawr. O ragddangosiadau cyffrous o ffilmiau newydd a ffilmiau mawr poblogaidd i raglenni dogfen sy'n procio’r meddwl, mae pob ymweliad yn cynnig cyfle i ddianc. Mae pob dangosiad yn cynnwys is-deitlau disgrifiadol, fel bod pawb yn gallu mwynhau'r profiad.

5 Hydref - 1yp