Yn dilyn ei thaith theatr hynod lwyddiannus yn 2024, mae'r meddyg enwog a'r arbenigwr ar hormonau merched, Dr Louise Newson, yn ôl yn 2026 gyda Breaking the Cycle: The Power of Hormones, sioe newydd na ddylech ei cholli sy'n herio popeth sydd wedi cael ei ddweud wrthych chi am hormonau.
Yn adnabyddus fel "y meddyg a gychwynnodd chwyldro'r menopos," bydd Dr Louise yn dadbacio'r hanes a'r wyddoniaeth o amgylch hormonau ac yn torri drwy ddegawdau o gamwybodaeth i gyflwyno'r gwirionedd y mae pawb yn haeddu ei gael, ond nad yw digon o bobl wedi ei gael.
Mae hon yn fwy na sgwrs iechyd: mae'n alwad i'n deffro ni ac i helpu pobl i feddwl yn wahanol am hormonau, i adennill eu hiechyd a'u hyder. Gallwch ddisgwyl gadael wedi eich grymuso, yn llawn egni ac yn barod i fynnu gwell.



