Digwyddiad cymdeithasol dan arweiniad pobl Fyddar cyn y sioe (Under Milk Wood), gan gynnwys cyflwyniad i’r sioe a sgwrs gan un o dîm creadigol y cynhyrchiad. Cyfle i ddysgu sut mae BSL (Iaith Arwyddion Prydain) yn cael ei hintegreiddio i’r sioe ac addasu i weithio gydag actorion Byddar.
Bydd cymorth dehonglydd BSL ar gael cyn y sioe ac yn ystod yr egwyl.
Wedi’i gyflwyno gan Jonny Cotsen.

