Dawns ar gyfer Parkinsons

Mercher 16 Medi - 30 Mehefin 27

Ymunwch â ni wyneb yn wyneb ar gyfer dawns, symud a cherddoriaeth fyw sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer Pobl sy'n byw gyda Parkinson's, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae ein sesiynau Dawns ar gyfer Parkinson’s yn eich gwahodd i symud mewn ffordd sy’n teimlo’n dda i chi. Rydym yn cynnwys ymarferion eistedd ac ar eich traed y mae modd eu haddasu ar gyfer anghenion unigol ac sy'n hygyrch i bawb.

Rydym yn llifo trwy wahanol ymarferion symud a delweddaeth greadigol i ddod â'n dychymyg yn fyw trwy symud. Mae'r sesiynau'n canolbwyntio ar ddod o hyd i lif, cryfder a mynegiant trwy symud gyda chefnogaeth cerddoriaeth fyw rymus. Byddwn yn gorffen gydag amser i gael paned a sgwrs.

Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?


Tymor yr Hydref:
Dydd Llun 14 Medi – Sad 12 Rhagfyr
Hanner Tymor:
26 Hydref – 31 Hydref (Dim sesiynau)

Tymor y Gwanwyn:
Llun 4 Ionawr – Sad 13 Mawrth
Hanner Tymor: 8 Chwefror – 13 Chwefror (Dim sesiynau)

Tymor yr Haf:
Dydd Llun 5 Ebrill – Sad 3 Gorffennaf
Hanner Tymor: 31 Mai 2024 – 5 Mehefin

Ydych chi’n barod i ymuno â ni?

Cysylltwch â'n tîm swyddfa docynnau cyfeillgar i sicrhau eich lle:-

Ffoniwch ni: 01352 344101

Anfonwch e-bost atom:box.office@theatrclwyd.com