Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 28 Hydref
Full of sharp one-liners and well crafted gags...a real talentMetro
Mae Daliso Chaponda wedi bod yn ysgrifennu jôcs am y newyddion ers dros ddegawd - ar Have I Got News For You, News Quiz Radio 4, Australia’s Good News Week a llawer mwy. (Mewn gwirionedd mae wedi gweld y newyddion o’r ddwy ochr, ar ôl bod yn y tabloids ei hun.) Ond yn ddiweddar mae’r newyddion wedi bod mor hurt, mor anhrefnus a mor llethol fel ei fod fwy neu lai yn gwneud hwyl ar ei ben ei hun. I ble rydyn ni’n mynd o fan hyn?
Topical Storm yw ymateb Daliso. Sioe nid am Y newyddion ond am newyddion ei hun. Newyddiadurwyr, blogwyr, newyddion ffug, newyddion dychanol: ydyn ni wedi colli’r llinyn? Ydi adrodd am y newyddion yn ein polareiddio ni’n ddiddiwedd fel cymdeithas yn hytrach na’n haddysgu? A fyddai’n well i ni fynd yn ôl i’r bwletin newyddion cyntaf erioed - dyn mewn ogof yn tynnu llun ar wal - a dechrau o’r dechrau? Dyna'n union mae Daliso yn ei wneud yn y sioe stand-yp newydd ffrwydrol yma.