Cwmni 55

Dydd Iau 17 Medi - 1 Gorffennaf 27

Daw'r Straeon Gorau gyda Phrofiad

Mae ein grŵp drama dros 55 oed yn gymuned yn ystod y dydd sydd wedi'i chreu o amgylch creadigrwydd, cysylltiad a digon o chwerthin. Gyda'n gilydd rydyn ni’n archwilio testun, dyfeisio, byrfyfyrio, a mwy - gan ddatblygu sgiliau go iawn wrth wneud ffrindiau go iawn ar yr un pryd. Cynhwysol, cefnogol a chroesawgar bob amser. Oherwydd bod y llwyfan wedi perthyn i bawb erioed.


Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?


Tymor yr Hydref:
Dydd Llun 14 Medi – Sad 12 Rhagfyr
Hanner Tymor:
26 Hydref – 31 Hydref (Dim sesiynau)

Tymor y Gwanwyn:
Llun 4 Ionawr – Sad 13 Mawrth
Hanner Tymor: 8 Chwefror – 13 Chwefror (Dim sesiynau)

Tymor yr Haf:
Dydd Llun 5 Ebrill – Sad 3 Gorffennaf
Hanner Tymor: 31 Mai 2024 – 5 Mehefin

Prisio

Debyd Uniongyrchol Misol

Cost

Cost Llawn (Pris Safonol)

£27.00

Bwrsariaeth o 25% (Lle â Chymhorthdal)

£20.25

Bwrsariaeth 50% (Lle â Chymhorthdal)

£13.50

Bwrsariaethau a Hygyrchedd

Credwn na ddylai cyllid, costau teithio, nac anghenion mynediad fod yn rhwystr i bobl gymryd rhan.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o fwrsariaethau i helpu cyfranogwyr i gael mynediad i'n gweithdai a'n gwersi cymunedol. Nid yw ein bwrsariaethau'n seiliedig ar brawf modd ac fe'u dyfernir fesul achos yn ôl yr angen ariannol.

Os hoffech wneud cais am fwrsariaeth, cysylltwch â creative.engagement@theatrclwyd.com.

Os oes unrhyw beth arall yn eich atal chi neu'ch plentyn rhag cymryd rhan, fel gofynion mynediad neu anawsterau teithio, anfonwch e-bost at creative.engagement@theatrclwyd.com. Byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

Gostyngiadau

Rydym yn cynnig gostyngiad o 25% i’r canlynol:

  • Brodyr a chwiorydd (mae'r plentyn cyntaf yn talu'r pris llawn, mae'r ail blentyn yn derbyn gostyngiad o 25%)
  • Cyfranogwyr sy'n ymuno â mwy nag un grŵp (pris llawn y grŵp cyntaf, gostyngiad o 25% ar yr ail grŵp
Ydych chi’n barod i ymuno â ni?

Cysylltwch â'n tîm swyddfa docynnau cyfeillgar i sicrhau eich lle:-

Ffoniwch ni: 01352 344101

Anfonwch e-bost atom:box.office@theatrclwyd.com