Come Together: The Lennon and McCartney Songbook

See dates and times  

Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 28 Hydref

Ymunwch â ni am noson fythgofiadwy o gerddoriaeth John Lennon a Paul McCartney yn y perfformiad cyngerdd syfrdanol yma - yn syth o’r Royal Court yn Lerpwl.

Mae caneuon eiconig Lennon a McCartney, gan gynnwys Penny Lane, All You Need Is Love, Yesterday, Strawberry Fields Forever a mwy yn fyw eto yn y sioe unigryw a chyffrous yma.

Bydd Tom Connor a Mark Newnham yn arwain y ffordd ar ôl sawl noson lwyddiannus lle gwerthwyd pob tocyn, gyda chynulleidfaoedd anhygoel, yn Lerpwl.

Sioe agos atoch chi a dyma'r peth agosaf gewch chi i noson gyda Lennon a McCartney eu hunain. Rhaid i ddilynwyr y Beatles ei gweld.