Casglu/Gather

3 Oct - 14 Jan

Mae Casglu yn ofod misol i ddawnswyr, symudwyr a phobl sy’n creu i ddod at ei gilydd i symud, rhannu a chysylltu ar draws Gogledd Cymru. Mae Casglu yn bartneriaeth rhwng Cywaith Dawns Gogledd Cymru, a Theatr Clwyd.

Mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at unrhyw un sydd ag ymarfer dawns neu symud proffesiynol yn ogystal â myfyrwyr mewn hyfforddiant llawn amser.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i box.office@theatrclwyd.com


Gweithdy gydag Uma O'Neill

Dydd Llun 16 Mehefin, 9:30-12pm @ St David’s Building

AM DDIM

Archwiliad creadigol o’r broses o ddatblygu motiffau ar gyfer Coreograffi.

Deall motiffau a'u datblygiad creadigol fel rhan o grefft y coreograffydd.

Mae cefndir Uma O’Neill ym maes dawns yn gyfoethog ac amrywiol. Mae hi wedi cwblhau cyrsiau Arweinwyr Dawns gyda’r Laban Guild, MA mewn Ymarfer Theatr Dawns Ewropeaidd yn Ysgol Gerddoriaeth Cerdd a Dawns Trinity Laban, yn ogystal â chyflawni rhaglen ôl-raddedig ryngwladol y Laban Guild, The Phoenix Project. Ar ei thaith, mae hi wedi astudio gyda ffigurau ysbrydoledig a phryfoclyd ym maes dawns - pobl fel Wayne McGregor, Warren Lamb, Anna Carlisle MBE, a Cai Tomos.

Roedd Uma yn ffodus i ymuno â sector dawns Cymru pan oedd hi’n ifanc, gan gyd-ddysgu cwrs Dawns TGAU yn 19 oed. Drwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi perfformio'n rhyngwladol, wedi coreograffu mewn lleoliadau proffesiynol a chymunedol, ac wedi cyfarwyddo ffilmiau dawns sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol.


Archebu

I fynd yn fyw ar y 2 o Fedi 2024

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw help arnoch yna mae ein tîm yma i'ch cefnogi.

E-bost: box.office@theatrclwyd.com

Ffôn: 01352 344101