Cymerwch gipolwg tu ôl i'r llen ar daith dywys o amgylch adeilad newydd Theatr Clwyd. Gyda golygfeydd o Fryniau Clwyd, mae Theatr Clwyd yn hwb ddiwylliannol ar ben y bryn. Ond beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni?
Am un awr, byddwch yn cael tocyn 'mynediad i bob ardal' (lle mae hynny'n bosibl!) i weld hud ar waith.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithdai cymunedol neu leoliad ar gyfer eich parti teuluol nesaf, os ydych chi eisiau dysgu am bensaernïaeth a hanes yr adeilad neu sut rydyn ni’n gwneud ein sioeau o'r dechrau un, bydd rhywbeth i bawb ar y daith awr yma.
