
Tu Ôl i'r Llenni yn y Pantomeim: Cwrs Byr Chwe Wythnos
Mercher 4 Tach - 9 Rhag 26
Ydych chi erioed wedi meddwl beth sydd ei angen i lwyfannu pantomeim? Cyn i'r floedd gyntaf o "O nad, yw ddim!" atseinio o amgylch yr awditoriwm, mae tîm cyfan o greuwyr theatr medrus wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni i greu'r hud. Dyma'ch cyfle chi i ymuno â nhw.
Dros gyfnod o chwe wythnos, byddwch yn dilyn ein pantomeim Nadolig o'r tu fewn, ac yn cael cipolwg go iawn ar y gwaith y tu ôl i'r llwyfan wrth i gynhyrchiad mawr ddod at ei gilydd.
Cewch y cyfle i wneud y canlynol:
- Darganfod byd y panto – o ble mae’n dod, beth sy'n ei wneud yn arbennig, a'r holl bobl sy'n rhoi bywyd iddo
- Gwylio ychydig o’r gwaith gosod wrth i'r set gyrraedd ac i'r llwyfan gael ei drawsnewid
- Gwylio ymarfer technegol a gweld sut mae goleuadau, sain a rheoli llwyfan yn dod ynghyd
- Mynd ar daith o amgylch y set a dod yn agos at y golygfeydd, y propiau a'r mannau tu ôl i'r llwyfan
- Cymryd rhan mewn gweithdy ymarferol gydag aelod o'n tîm creu theatr
- Gweld rhagolwg o berfformiad a gweld popeth rydych chi wedi'i ddysgu yn dod at ei gilydd o flaen cynulleidfa fyw
P'un a ydych chi'n ystyried gyrfa yn y theatr, yn mwynhau darganfod sut mae pethau'n gweithio, neu'n syml am weld pantomeim o safbwynt hollol newydd, mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi. Nid oes angen unrhyw brofiad – dewch â'ch chwilfrydedd yn unig.
Ydych chi’n barod i ymuno â ni?
Cysylltwch â'n tîm swyddfa docynnau cyfeillgar i sicrhau eich lle:-
Ffoniwch ni: 01352 344101
Anfonwch e-bost atom:box.office@theatrclwyd.com