Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru: Diwrnod Darganfod Dawns

Diwrnod Darganfod Dawns yn dod iTheatr Clwyd ym mis Mawrth

Mae pobl ifanc 12–22 mlwydd oed sydd ag angerdd am ddawns yn cael eu gwahodd igymryd rhan mewn digwyddiad cyffrous Diwrnod Darganfod Dawns, sy’n cael ei gyflwynogan Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) mewn partneriaeth â Ballet Cymru, yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, ddydd Sul 1 Mawrth 2026.

Yn rhedeg o10:30–15:00, bydd y diwrnod hwyliog, cynhwysol a diddorol hwn yn rhoi cyflei gyfranogwyr archwilio ystod eang o weithgareddau dawns, darganfod arddulliau newydd agweithio ochr yn ochr ag artistiaid dawns proffesiynol mewn amgylchedd cefnogol achroesawgar. Yn agored i bob lefel profiad a chefndir dawns, mae'r diwrnod wedi'i gynllunioi ysbrydoli chwilfrydedd, magu hyder a dathlu creadigrwydd. P'un a ydych chi'n newydd i ddawns neu'n ymarfer yn rheolaidd eisoes, mae’r Diwrnod Darganfod Dawns yn cynnig cyfle unigryw i gysylltu â sefydliadau dawns blaenllaw yng Nghymru, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chwrdd â phobl ifanc eraill sy'n rhannu cariad atsymud.

Mae uchafbwyntiau Diwrnod Darganfod Dawns yn cynnwys:

  • Archwilio arddulliau dawns newydd
  • Gweithio gydag artistiaid dawns proffesiynol
  • Awyrgylch hwyliog, cynhwysol a chefnogol
  • Yn agored i bob arddull ddawns a lefel profiad

Manylion y digwyddiad

Lle? Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug

Pryd? Dydd Sul 1 Mawrth 2026

Amser? 10:30–15:00

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch âjamiejenkins@nyaw.org.uk. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ddarganfod, creu a dawnsio gyda DGIC a Ballet Cymru yng Ngogledd Cymru.