Calonnau Clwyd

🩷 Theatr Clwyd?

Drwy rodd fisol reolaidd neu ymrwymiad blynyddol, byddwch yn dysgu mwy am ein gwaith ni ar y llwyfan ac oddi arno. Byddwn yn mynd â chi y tu ôl i'r llenni yn ogystal â chynnig cyfle i chi ddod yn nes at Theatr Clwyd drwy ddigwyddiadau a phrofiadau pwrpasol. Byddwn yn dangos i chi'r gwahaniaeth mae eich rhodd yn ei wneud.


Gyda'ch cefnogaeth chi…
  • Gallwn gadw calon Theatr Clwyd yn curo, gan ddod â bywyd i'r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn ein cymunedau ni.
  • Gallwn barhau i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda cholled cof ac,, yn hollbwysig, eu gofalwyr nhw hefyd.
  • Gallwn ddarparu llefydd fforddiadwy yn ein gweithdai ni i bob person ifanc.
  • Gallwn ddod â'r celfyddydau i bobl a fyddai fel arall yn llithro trwy'r bylchau fel pobl ifanc sydd ddim yn mynd i'r ysgol mwyach.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at lily.peers-dent@theatrclwyd.com neu ffoniwch 01352 609143.

Telerau ac amodau

Mae pob lefel rhodd yn cynnwys gwerth budd sy'n manylu ar y gost wirioneddol i Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd. Mae posib prynu'r buddion yma ar wahân. Mae unrhyw swm sy’n cael ei roi uwchlaw'r gwerth budd yma’n cael ei roi fel rhodd i gefnogi Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd (rhif elusen 1189857) ac mae'n gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd. I drafod prynu buddion ar wahân anfonwch e-bost at Janine.dwan@theatrclwyd.com.