Calonnau Clwyd
🩷 Theatr Clwyd?
Drwy rodd fisol reolaidd neu ymrwymiad blynyddol, byddwch yn dysgu mwy am ein gwaith ni ar y llwyfan ac oddi arno. Byddwn yn mynd â chi y tu ôl i'r llenni yn ogystal â chynnig cyfle i chi ddod yn nes at Theatr Clwyd drwy ddigwyddiadau a phrofiadau pwrpasol. Byddwn yn dangos i chi'r gwahaniaeth mae eich rhodd yn ei wneud.
Gyda'ch cefnogaeth chi…
- Gallwn gadw calon Theatr Clwyd yn curo, gan ddod â bywyd i'r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn ein cymunedau ni.
- Gallwn barhau i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda cholled cof ac,, yn hollbwysig, eu gofalwyr nhw hefyd.
- Gallwn ddarparu llefydd fforddiadwy yn ein gweithdai ni i bob person ifanc.
- Gallwn ddod â'r celfyddydau i bobl a fyddai fel arall yn llithro trwy'r bylchau fel pobl ifanc sydd ddim yn mynd i'r ysgol mwyach.

Yn dibynnu ar eich lefel o gefnogaeth, byddwn yn teilwra ein diolch.
Membership

£5 y mis | £60 y flwyddyn
Mae £5 y mis, sef cost pryd bwyd bargen, yn golygu y gallwn ni ddarparu pecyn gofal personol i berson ifanc sy'n wynebu anawsterau sy'n mynychu ein sesiynau creadigol ni.
Fel diolch, byddwn yn rhoi i chi:- Gwahoddiadau nosweithiau i westeion - 2 docyn i berfformiad noson i westeion, gyda derbyniad diodydd a rhaglen.
- Cylchlythyr drwy’ch drws - Cylchlythyr blynyddol yn llawn newyddion o Theatr Clwyd, ar ac oddi ar y llwyfan.

£10 y mis | £120 y flwyddyn
Mae £10 y mis, sy'n cyfateb i bris tri choffi, yn golygu y gallwn ni gyflwyno celfyddydau creadigol, crefftau a cherddoriaeth mewn gweithdai cadair freichiau i greu atgofion newydd.
Fel diolch, byddwn yn rhoi'r holl bethau uchod i chi ynghyd â:
- E-bost effaith - Diweddariad dwywaith y flwyddyn am y gwahaniaeth mae eich cefnogaeth chi’n ei wneud.
- Blog mynediad i bob ardal - Gwybodaeth unigryw gan ein cyfarwyddwr artistig, ein cynhyrchwyr neu ein rhaglenwyr.
Membership

£25 y mis | £300 y flwyddyn
Mae £25 y mis, cost pryd ysgafn, yn golygu y gallwn ni ddarparu cinio iach i berson ifanc sydd wedi’i gyfeirio at ein sesiynau creadigol ni dros yr haf.
Fel diolch, byddwn yn rhoi'r holl bethau uchod i chi ynghyd â:
- Sesiynau Holi ac Ateb - Cwrdd â’r bobl greadigol y tu ôl i’r sioeau.
- Taith gefn llwyfan - Cyfle i weld yr hud y tu ôl i’r sioeau: gwisgoedd, adeiladu setiau, celf golygfaol, goleuo a sain.
Membership

£50 y mis | £600 y flwyddyn
Mae £50 y mis, sef cost dau docyn i'r theatr, yn golygu y gallwn ni ddarparu dosbarthiadau meistr mewn pypedwaith, ymladd llwyfan a mwy i sbarduno ysbrydoliaeth yn ein cymunedau ni.
Fel diolch, byddwn yn rhoi'r holl bethau uchod i chi ynghyd â:
- Tocyn cefn llwyfan unigryw - Cyfle i weld ein pobl greadigol ni wrth eu gwaith yn yr ystafell ymarfer a hefyd diodydd gyda’r cyfarwyddwr.
- Mynediad at docynnau munud olaf - Cael tocynnau ar gyfer sioeau sydd wedi gwerthu allan (Yn amodol ar argaeledd)
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at lily.peers-dent@theatrclwyd.com neu ffoniwch 01352 609143.
Telerau ac amodau
Mae pob lefel rhodd yn cynnwys gwerth budd sy'n manylu ar y gost wirioneddol i Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd. Mae posib prynu'r buddion yma ar wahân. Mae unrhyw swm sy’n cael ei roi uwchlaw'r gwerth budd yma’n cael ei roi fel rhodd i gefnogi Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd (rhif elusen 1189857) ac mae'n gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd. I drafod prynu buddion ar wahân anfonwch e-bost at Janine.dwan@theatrclwyd.com.



