
Parti Nadolig
Heb archebu eich parti Nadolig eto? Dyma’r lle i chi.
Parti Nadolig, eich ffordd chi. Pa bynnag becyn fyddwch chi’n ei ddewis, byddwch yn cael mwynhau ystafell Nadoligaidd breifat, diod pefriog neu gwrw wrth gyrraedd a bwyd tymhorol gan y cogydd nodedig o Gymru, Bryn Williams – tipyn mwy blasus na bwyd parti Nadolig arferol, a’r cyfan yn lleoliad unigryw Theatr Clwyd.

Noson Parti Nadolig
£45 y pen | Y dathliad Nadoligaidd hamddenol.
Bwyd gwych, cerddoriaeth wych, dim ffws. Diodydd i’w mwynhau wrth gyrraedd ac wedyn platiau rhannu Nadoligaidd hael a bar preifat, ac wedyn gadewch i’r DJ osod yr awyrgylch ar gyfer dawnsio tan yr hwyr.
Isafswm o 40 o bobl

Noson Parti Nadolig
gyda Chinio 3 Chwrs
£60 y pen | Y Nadolig ar ei orau.
Gwnewch yr achlysur yn un i’w gofio gyda diodydd wrth gyrraedd, cinio nos tymhorol tri chwrs wedi’i gyflwyno’n hyfryd, bar preifat ac wedyn DJ a dawnsio tan hwyr y nos.
Isafswm o 40 o bobl

Profiad Pantomeim Nadolig Roc a Rôl*
£85 y pen | Y profiad theatrig Nadoligaidd llawn.
Cyfle i fwynhau diodydd croeso a bwyd Nadoligaidd anffurfiol mewn powlen cyn eistedd yn eich sedd ar gyfer Pinocchio, y Panto Roc a Rôl, gyda bar preifat ar gyfer byrbrydau, diodydd a hufen iâ.
Isafswm o 10 o bobl
*yn amodol ar argaeledd
Mae pecynnau bocs preifat gyda darpariaeth arlwyo lawn ar gael hefyd ar gyfer y lletygarwch corfforaethol gorau.