Rhwydwaith Artistiaid

Gofod i bobl greadigol gysylltu, gydweithio a chefnogi ei gilydd

Nid yw'n le am gyfleoedd gwaith - mae'r rhwydwaith yn ymwneud ag adeiladu cymuned artistig gref lle gellir rhannu syniadau, profiadau ac ysbrydoliaeth. P’un a ydych chi’n actor, yn awdur, yn gyfarwyddwr neu’n ymarferwr creadigol, ymunwch â ni i gwrdd ag artistiaid o’r un anian a thyfu gyda’n gilydd.


Cofrestrwch ar gyfer y rhestr bostio yma:


or Unsubscribe


Local Artist Events

Actor's Gyms

Lle i actorion ym mhob cam o ran profiad archwilio, chwarae a thyfu.

Dan arweiniad y Cyfarwyddwr Hyfforddai Preswyl Dena Davies, bydd y gweithdai lled-reolaidd yma’n defnyddio dramâu wedi’u cyhoeddi fel sylfaen i blymio i sgiliau newydd, archwilio rhywfaint o destun a gweithio eich cyhyrau actio mewn amgylchedd cefnogol.

Mae manylion y sesiynau, testunau’r dramâu a’r dyddiadau cau i gofrestru ar gael isod. Bydd copïau o'r sgript yn cael eu dosbarthu i’r cyfranogwyr 48 awr cyn pob sesiwn.


Parliament Square gan James Fritz

Roedd PARLIAMENT SQUARE gan James Fritz yn un o enillwyr Gwobr Bruntwood yn 2015 am Ysgrifennu Dramâu a chafodd ei chynhyrchu yn Theatr y Royal Exchange (Manceinion) a Theatr Bush (Llundain), dan gyfarwyddyd Jude Christian, gan ennill bri y beirniaid.

Pa mor bell fyddech chi'n mynd dros yr hyn rydych chi'n credu ynddo?

Mae Kat yn codi un bore, yn gadael ei theulu ar ei hôl ac yn teithio i Lundain i gyflawni gweithred a fydd yn newid ei bywyd hi a, gobeithio, bywyd pawb arall. I'r rhai mae'n eu cyffwrdd, ’fydd eu bywydau byth yr un fath eto. Ond beth, yn y pen draw, yw canlyniadau gwirioneddol ei gweithredoedd? Yn amrwd, yn creu anesmwythyd ac yn dosturiol, mae drama hynod bwerus James Fritz yn gorfodi gwrthdaro â rhai o'r cwestiynau mwyaf brys rydyn ni’n eu hwynebu.

Beth all un unigolyn ei wneud i greu newid?

A ble rydyn ni’n dewis tynnu llinell rhwng ymrwymiad llwyr ac obsesiwn peryglus?

'A hugely original, intricate work… a harrowing exploration of the void between feeling something, and taking action... fast-paced and almost physically painful to watch.'Time Out

'This intense play is a call to action… [has] such a timely vitality... there are few playwrights working in Britain today whose work is as slick and unsettling as James Fritz’s.'
Exeunt Magazine

Rhybudd cynnwys – mae’r darn yma’n cynnwys portreadau o hunan-niweidio a hunan-aberthu ac iaith gref