Dena Davies
Dena Davies yw Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant Preswyl presennol Theatr Clwyd. Mae hi'n grëwr theatr o Abertawe a graddiodd o’r Liverpool Institute for Performing Arts. Mae ei gwaith fel cyfarwyddwr cynorthwyol yn cynnwys; Snake in the Grass (Theatr Clwyd), Tick, tick... Boom! (Theatr Clwyd), Hot Chicks (Theatr y Sherman), Rapunzel (Everyman Theatre), Mum Fighter (Theatr y Grand Abertawe), Rope (Theatr Clwyd) a Sorter (Theatr y Grand Abertawe).