Bwrdd Cynghori Ieuenctid
Mae Theatr Clwyd wedi recriwtio Bwrdd Ieuenctid Ymgynghorol newydd sbon. Nod y Bwrdd yw helpu i lunio dyfodol Theatr Clwyd gan roi lleisiau ifanc wrth galon popeth maeโn ei wneud. Maeโr Bwrdd Ieuenctid Ymgynghorol yn grลตp o bobl ifanc 11 i 25 oed a fydd yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn i drafod a breuddwydio gydaโi gilydd am ddyfodol Theatr Clwyd. Bydd Cadeirydd ac Is Gadeirydd ar gyfer y bwrdd yma a fydd hefyd yn mynychu cyfarfodydd Bwrdd Ymddiriedolwyr llawn Theatr Clwyd.
Rydw i aโr ymddiriedolwyr yn Theatr Clwyd yn gyffrous iawn bod y Bwrdd Ieuenctid Ymgynghorol yn dod yn rhan oโn strwythur llywodraethu a gwneud penderfyniadau ni. Bydd Liam a Kate fel Prif Weithredwyr yn mynychu holl gyfarfodydd y Bwrdd Ieuenctid, ac rydyn ni wedi cadarnhau y gallant fod yn is-bwyllgor swyddogol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Byddwn hefyd yn croesawu pwy bynnag fydd yn cael ei benodi yn Gadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol i fod yn un o ymddiriedolwyr swyddogol Theatr Clwyd, a bydd yr Is Gadeirydd yn bresennol fel arsylwr. Bydd gan y ddau fentoriaid o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, a bydd hyn i gyd yn gyfle i ni roi pobl ifanc wrth galon ein penderfyniadau ni. Rydyn niโn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau arni!Helen Watson, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd