Cyngor Sir y Fflint sy'n berchen ar faes parcio Theatr Clwyd ac yn ei weithredu.

O 1af Hydref 2023 ymlaen bydd taliadau parcio yn berthnasol yn ystod y dydd a gyda'r nos. Fodd bynnag, mae'r taliadau parcio yn rhesymol iawn ac yn helpu i gefnogi Cyngor Sir y Fflint i barhau i gynnal a chadw cyfleusterau'r maes parcio.

Y costau parcio yw:

  • 9am – 5pm
    70c am 2 awr
    £1.70 am ddiwrnod cyfan (hyd at 5pm)
  • Ar ôl 5pm
    £2 am y gyda’r nos

Mae pedair ffordd y gallwch chi dalu am eich parcio:

#1 - Defnyddio’r Ap PayByPhone
Mae'r Ap PayByPhone yn syml i'w ddefnyddio ac mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich parcio felly does dim angen i chi boeni! Mae ar gael ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple, ac mae cofrestru yn cymryd llai na 30 eiliad fel arfer - chwiliwch am “PayByPhone” a’i lawrlwytho i'ch ffôn. Bydd angen i chi ychwanegu eich car (bydd arnoch angen rhif eich car) a cherdyn talu ac wedyn mae'n syml iawn! Mae’n cynnwys rhybuddion a hysbysiadau hefyd!

Lleoliad y Maes Parcio Aml-lawr (y maes parcio dan do gyferbyn â'r theatr) yw: 807120



#2 - Defnyddio’r Wefan PayByPhone
Mae gwefan PayByPhone yn syml i'w defnyddio! Gallwch greu cyfrif neu ddesg dalu fel gwestai. Bydd angen i chi ychwanegu eich car (bydd arnoch angen rhif eich car) a cherdyn talu ac wedyn mae'n syml iawn!

Lleoliad y Maes Parcio Aml-lawr (y maes parcio dan do gyferbyn â'r theatr) yw: 807120



#3 - Dros y Ffôn – Drwy ffonio 0330 109 6182

Gallwch dalu dros y ffôn – mae braidd yn lletchwith a bod yn onest, ond mae'n gweithio (ond ychydig yn arafach na'r ap a'r wefan. Yr ap neu'r wefan fydden ni’n ei ddewis, am yr hwylustod!


#4 - Gydag Arian Parod - Defnyddio'r Peiriannau Parcio

Ar hyn o bryd (mis Medi 2023) arian parod yn unig yw'r peiriannau parcio - gallant hefyd fod ychydig yn anodd eu trin ac nid ydynt yn rhoi newid. Pan maen nhw'n gweithio, maen nhw'n dda!


Cwestiynau ac Ymholiadau Parcio

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am y meysydd parcio, neu os hoffech roi adborth amdanynt, cysylltwch â Chyngor Sir y Fflint: