Bwyd a Diod

Bwydo creadigrwydd…
Gyda Moel Famau yn gefndir – dewch i fwynhau nifer helaeth o pizza neu basta yn ein caffi ar ben y bryn.
Ar frys i gyrraedd eich sedd neu dal i fyny gyda ffrindiau?
Mae gennym hefyd nifer fawr o frechdanau, saladau, cacennau, a diodydd poeth ag oer.
Ein Caffi ni yw'r lle perffaith i ddal i fyny hefo ffrindiau a theulu, neu i fwynhau bwyd o ansawdd cyn cymryd eich sedd ar gyfer un o'n perfformiadau byw ni neu sgriniad yn ein sinema.
Os ydych yn bwriadu dod a grŵp, rydym yn argymell eich bod yn archebu bwrdd o flaen llaw ar: 01352 701533
Archebwch eich diodydd a’ch byrbrydau gyda’n ap newydd ar gyfer Bariau Theatr Clwyd.
Neu archebwch ar-lein yma.


Cynadleddau a Digwyddiadau Busnes
Mae pob cyfleuster byddech eu hangen ar gyfer seminar, cynhadledd, cyfarfod busnes neu weithdy llwyddiannus yma i chi. Mae gennym nifer o ystafelloedd ac ardaloedd sy’n addas ar gyfer pob math ddigwyddiadau, ac mae’r Theatr Anthony Hopkins ar gael ar gyfer cynadleddau mwy. Gallem drefnu eich arlwyo a’ch lluniaeth, darparu cyfarpar ac helpu gwneud eich digwyddiad yn un dosbarth cyntaf.
Cyswllt: Nathan Stewart (nathan.stewart@theatrclwyd.com)