Datganiad Tasglu
Mewn ymateb i sgyrsiau diweddar am Gyrff Noddi Tasglu Cymru, Diwylliant a Hil, mae arnom eisiau cadarnhau natur ein hymglymiad.
Rydym wedi addo cefnogaeth ariannol iโr fenter ffurfio Tasglu sydd yn yr arfaeth. Heb eto ei ffurfio y maeโr Tasglu hwn. Fe fu i ni addoโn cefnogaeth gydaโr bwriadau gorau, yn cydnabod diffyg gweithredu hanesyddol ac รขโn bryd ar gefnogiโr gwaith angenrheidiol a thaer y mae gofyn ei wneud er mwyn brwydro yn erbyn hiliaeth systemig yn sector y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. Byddwn yn coledduโr dysgu syโn deillio oโr Tasglu hwn ac yn rhoi ei gasgliadau ar waith yn ein rhaglenni drwodd a thro.
Mae arnom eisiau cefnogi ac ymgysylltu รขโr gweithgor ddaeth ynghyd i ddatblygu syniadau ynghlwm รข chreuโr Tasglu. Deallwn fod y gweithgor hwn wediโi sefydlu mewn proses agored i unrhyw un ymuno. Nid ydym yn esgusodi nac yn goddef bwlio na cham-drin o unrhyw fath, gan gynnwys y rheini y soniwyd amdanynt yn digwydd mewn mannau a guradir ac a hwylusir ar ran y gweithgor, nac ar unrhyw lwyfannau na mewn sefyllfaoedd eraill โ pa un ai mewn cyfarfodydd neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Cydnabyddwn fod angen oedi bellach i ymorol bod y dulliau gweithredu a ddatblygwyd ac a roddwyd ar waith o ran ffurfioโr Tasglu yn drwyadl, yn eglur, yn agored ac yn gynhwysol. Nid canoli na chyfarwyddo gwaith y grลตp hwn oedd ein rรดl. Fodd bynnag, a ninnauโn gyrff noddi, cydnabyddwn fod angen i ni fod yn atebol am y buddsoddiad a wnawn aโr gefnogaeth a roesom. Nid ydym mewn lle i ymchwilio iโr honiadau a wnaed, ond byddwn yn cynnig ein cefnogaeth iโr gweithgor ac yntauโn bwrw golwg ar yr achosion a godwyd ac yn ceisio symud ymlaen wrth y gwaith hanfodol o greu Tasglu Cymru, Diwylliant a Hil.