Criw Celf 2023
Yn ystod hanner tymor mis Mai eleni, byddwn yn cynnal cyfres o weithdai celf ar draws Sir y Fflint i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y Celfyddydau Creadigol, paentio, darlunio, gwneud printiau, dwdlo unrhyw fath o gelfyddyd weledol, dewch i gymryd rhan!
Mae hwn yn agored i unrhyw un 11 i 17 oed.

Register/Book
Cwestiynau Cyffredin Criw Celf 23
- Mae Criw Celf yn rhaglen gyffrous ac uchelgeisiol o ddosbarthiadau meistr creadigol ar gyfer pobl ifanc sydd รข diddordeb arbennig yn y celfyddydau gweledol. Drwy gyfres o weithdai rhyngweithiol gydag artistiaid proffesiynol o amrywiaeth o gefndiroedd, mae ein hartistiaid ifanc yn dysgu sgiliau y tu hwnt iโr hyn maent yn ei wybod oโr ystafell ddosbarth, yn datblygu gwell dealltwriaeth o fyd y celfyddydau, ac yn meithrin cyfeillgarwch a hyder drwy weithio gyda phobl ifanc eraill brwdfrydig.
Eleni, cynhelir y rhan fwyaf oโr gweithdai mewn mannau cymunedol yn Sir y Fflint; Yr Wyddgrug, Bwcle, Cei Connah / Glannau Dyfrdwy a Threffynnon. Bydd y gweithdai yn fyw ac yn rhyngweithiol gyda'r artistiaid. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau a chydweithio รข gweithwyr creadigol talentog, anhygoel. Bydd y gwaith syโn cael ei greu yn y dosbarthiadau meistr eleni yn rhan o arddangosfa ddathlu.
- PWY ALL GYMRYD RHAN? Mae Criw Celf a Phortffolio yn agored i bob person ifanc sydd รข diddordeb arbennig a brwdfrydedd dros y celfyddydau gweledol, sydd rhwng 11 a 17 oed.
- SUT MAE ARCHEBU LLE? Llenwch y ffurflen ganlynol. Nodwch eich lleoliad gweithdy o ddewis. Wedyn byddwn yn dod o hyd i'r gofod cymunedol perthnasol aโr amser gweithdy agosaf atoch chi.
- PRYD FYDD Y GWEITHDAIโN CAEL EU CYNNAL? Cynhelir y gweithdai rhwng dydd Mawrth 30ain Mai a dydd Gwener 2il Mehefin. Maeโr union leoliadau aโr amseroedd i'w cadarnhau.
- COST? Mae'r gweithdai am ddim. Dim angen taliad.
- CYSYLLTU? Efallai y byddwn hefyd yn gallu cefnogi pobl ifanc i gael mynediad iโr sesiynau yn y mannau cymunedol ac yn gallu cefnogi gyda chludiant, felly e-bostiwch takepart@theatrclwyd.com