Y Rhaglen Cyfiawnder
Mae'r Rhaglen Cyfiawnder yn gyfres o weithdai sy'n teithio o amgylch Cymru gan ddefnyddio drama fel adnodd i ddangos i blant a phobl ifanc effaith troseddu a sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithredu. Wediโi hanelu ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn rhan oโr system cyfiawnder troseddol, mae actorion a hwylusydd yn cynnal y gweithdai lle mae senario โberthnasol a thrawiadolโ yn cael ei hactio, gan arwain at arestioโr drwgweithredwr ac maeโn wynebu achos llys troseddol. Mae'r heddlu wedi cyfrannu at y senario i sicrhau ei bod yn cynrychioli tueddiadau troseddu cyfredol โ cyffurlinellau ar hyn o bryd.
Mae Cyfiawnder mewn Diwrnod / Justice in a Day, un o dri gweithdy'r rhaglen, yn sesiwn diwrnod llawn sy'n dod i benllanw gyda throsglwyddo i lys ynadon lleol. Maeโr cyfranogwyr yn cael gwylioโr drwgweithredwr yn y llys gydag ynadon go iawn a PCSO yn chwaraeโr prif rannau, gan ychwanegu at effaith a dilysrwydd y prosiect. Mae'r prosiect yn atal ac yn annog pobl ifanc i beidio รข dilyn llwybr troseddu, yn rhoi cyfle i fynd i'r afael รข chwestiynau na fydd pobl ifanc yn gallu eu gofyn fel arall ac yn edrych ar effaith ymddygiad troseddol ar droseddwyr, dioddefwyr a'r gymuned ehangach.
Canlyniadau
- 10,000+ o bobl ifanc wedi elwa
- Empathi a hunanymwybyddiaeth cynyddol y cyfranogwyr
- Dealltwriaeth gynyddol o effaith ymddygiad troseddol
- Gwneud gwell penderfyniadau a meddwl am y canlyniadau yn y tymor hwy
- Hunanhyder cynyddol ac ymwybyddiaeth o gyfrifoldeb personol
- Lleihauโr niferoedd syโn dod yn rhan oโr System Cyfiawnder Troseddol i Ieuenctid

Stori Joe
Mae Joe, 15 oed, yn mynychu Uned Cyfeirio Disgyblion ac roedd eisoes wedi bod yn gysylltiedig รข'r heddlu. Cyn mynychu Cyfiawnder mewn Diwrnod, soniodd ei fod yn mynd i dorri ffenestr car dyn yr oedd wedi bod yn dadlau ag ef. Yn dilyn y gweithdy, penderfynodd Joe beidio รข maluโr ffenestr oherwydd ei ddealltwriaeth newydd oโr canlyniadau.
โMae wedi newid ei ymddygiad ers Cyfiawnder mewn Diwrnod. Mae'n deall bod canlyniadau ac mae eisiau cadw allan o drwbwlโAthro yn siarad am fyfyriwr a fynychodd sesiwn Cyfiawnder mewn Diwrnod
Celfyddydau oโr Gadair Freichiau
Mae dementia yn fater iechyd cyhoeddus o bwys sy'n effeithio ar 1 o bob 20 dros 65 oed ac 1 o bob 5 dros 80 oed. Wrth i ddisgwyliad oes gynyddu bydd mwy o bobl yn byw gyda chlefydau dementia. Wrth galon ein gwaith mae ymrwymiad i ddefnyddio'r celfyddydau fel adnodd i wella ansawdd bywyd i'r rhai sy'n byw gyda salwch.
Mae Celfyddydau oโr Gadair Freichiau, sy'n cael ei weithredu mewn partneriaeth รข Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn cefnogi pobl รข dementia cynnar a'u gofalwyr i addasu i'w hamgylchiadau newydd. Mae'r cyfranogwr a'i ofalwr yn cymryd rhan yn y rhaglen - gan weithio gyda'i gilydd, cael hwyl ac ysgogi swyddogaethauโr ymennydd. Mae rhan un y sesiwn yn canolbwyntio ar gyfathrebu a symud, gan gefnogi sgiliau gwybyddol a chyhyrauโr cof, ac maeโr ail ran yn cyflwynoโr cyfranogwyr i weithgareddau sy'n creu atgofion newydd, wedi'u gwreiddio yn y presennol.
Mae defnyddio gweithgareddau dan arweiniad y celfyddydau yn arwain at brofi rhywbeth newydd bob wythnos. I un dyn, prif ofalwr ei wraig, maeโr sesiynauโn ei helpu i โgael ei wraig yn รดlโ am y tridiau canlynol, gan leihauโr ymdeimlad o golled y mae gofalwyr yn aml yn ei deimlo.
Canlyniadau
- Helpu cyfranogwyr i addasu iโw โnormalrwydd newyddโ yn byw gyda dementia
- Ysgogi swyddogaethauโr ymennydd a'r cof sy'n dirywio
- Meithrin hunanhyder
- Profiad hwyliog a rennir sy'n creu atgofion newydd ac sy'n rhoi seibiant a chefnogaeth i ofalwyr
- Datblygu strategaethau newydd i helpu gofalwyr i gefnogi eu partner
Roeddwn i wedi bod yn teimloโn ddifrifol yn gofalu ond pan rydyn niโn dod yma mae fel bod baich mawr yn cael ei godi oddi ar fy ysgwyddau.โCyfranogwr Celfyddydau O'r Gadair Freichiau
Cysylltu a Ffynnu
Yn ystod y pandemig buom yn gweithio'n helaeth gyda phobl ifanc ddifreintiedig a bregus. Fe wnaethom ni alluogi pobl ifanc i gydweithio, ac wedyn i ffurfio sut maen nhw eisiau i Theatr Clwyd, a'r Gwasanaethau Cymdeithasol, weithio gyda nhw yn y dyfodol - gan greu rhaglen dan arweiniad y cyfranogwyr i'w cefnogi. Gwnaed yr holl atgyfeiriadau at y rhaglen hon gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint.
Mae Rachel* yn ofalwr ifanc a gofynnodd y gwasanaethau cymdeithasol iddi a oedd hi eisiau fod yn rhan o Gysylltu a Ffynnu fel math o seibiant. Mae hi'n gofalu am ei brawd iau sydd รข pharlys yr ymennydd. Wrth fynychu'r sesiynau, darganfu ei llais ac mae canu yn rhywbeth y mae ganddi ddawn amdano. Roedd Rachel wedi bod yn mwynhau'r sesiynau, er ei bod yn teimlo y dylai ei brawd fod yn ymuno รข hi i rannu'r profiad. Nawr maen nhw'n mwynhau'r sesiynau gyda'i gilydd.
Nid oedd Ben* yn mynd i'r ysgol ac roedd ganddo agwedd negyddol tuag at ddysgu. Drwy Cysylltu a Ffynnu, mae cerddoriaeth wedi dod yn rhywbeth y mae wedi gwirioni arno a thrwy'r rhaglen cafodd gyfle i chwarae'r gitรขr. Drwy'r rhaglen mae wedi dysgu chwarae sawl cord. Ar รดl y rhaglen fe wnaethom lwyddo i ddod o hyd i gitรขr iddo er mwyn iddo allu parhau รข'i angerdd newydd.
Mae Anna* eisiau bod yn โgynllunydd ffasiwnโ. Mae Anna yn dod o Rwmania, wedi colli ei mam ac mae hi wedi bod mewn 3 chartref maeth yn ystod y 12 wythnos rydyn ni wedi ei hadnabod. Fe wnaethom ni ei chyflwyno i'n hadran ffasiwn a goruchwyliodd y gwisgoedd ar gyfer y prosiect.
Mae Rob* yn hoff iawn o gombat llwyfan! Mae gan Rob ADHD, gydag oedran dysgu o 6-8 yn 15 oed.
Gall y sesiynau hyn gael effaith sylweddol ar fywydau'r cyfranogwyr, gallant fod yn arwydd o hwyl a gobaith am eu dyfodol wrth ddod yn oedolion ifanc.
*newidiwyd yr enwau ar gyfer cyfrinachedd.
