Thornton Wilder
Thornton Niven Wilder - Cronoleg
| 1897 | Ganwyd yn Madison, Wisconsin (Ebrill 17) |
| 1906 | Symud i Hong Kong ym mis Mai ac i Berkeley, California ym mis Hydref |
| 1906-10 | Ysgol Emerson yn Berkeley |
| 1910-11 | Ysgol Genhadaeth Mewndirol Tsieina (China Inland Mission School), Chefoo, Tsieina (un mlynedd) |
| 1912-13 | Ysgol Thacher, Ojai, Califfornia (un mlynedd). Y ddrama gyntaf y gwyddys iddi gael ei chynhyrchu: The Russian Princess |
| 1915 | Graddio o Ysgol Uwchradd Berkeley; yn weithgar mewn dramau ysgol |
| 1915-17 | Coleg Oberlin; cael ei gyhoeddi'n rheolaidd |
| 1920 | B.A.o Goleg Yale (3 mis yn 1918 gyda Byddin yr Unol Daleithiau yn 1918); llawer o gyhoeddiadau |
| 1920-21 | Academi Americanaidd yn Rhufain (preswyliad 8 mis) |
| 1920s | Athro Ffrangeg yn Ysgol Lawrenceville, Lawrenceville, New Jersey (’21-’25 a ‘27-’28 |
| 1924 | Ymweliad cyntaf â Gwladfa MacDowell, Peterborough, New Hampshire |
| 1926 | M.A. mewn llenyddiaeth Ffrangeg, Prifysgol Princeton |
| 1927 | The Trumpet Shall Sound cynhyrchwyd oddi ar Broadway (American Laboratory Theatre). The Cabala (nofel gyntaf) |
| 1928 | The Angel That Troubled The Waters (y casgliad cyntaf o ddrama – dramâu byrion |
| 1930s | Cyfadran yn rhan-amser, Prifysgol Chicago (llenyddiaeth gymharol ac ysgrifennu); darlithoedd ar draws y wlad; aseiniad sgriptio-sgrin Hollywood cyntaf (1934); teithio tramor helaeth |
| 1930 | The Woman of Andros (nofel). Cwblhau adeiladu cartref i'w deulu ac iddo’I hun yn Hamden, Connecticut |
| 1931 | The Long Christmas Dinner and Other Plays (chwe drama un-act) |
| 1932 | Lucrece yn agor ar Broadway gyda Katharine Cornell yn serennu (cyfieithiad o Le Viol de Lucrèce gan André Obey) |
| 1935 | Heaven’s My Destination (nofel) |
| 1937 | A Doll’s House (addasiad/ cyfieithiad) yn agor ar Broadway gyda Ruth Gordon |
| 1938 | Our Town (Gwobr Pulitzer) a The Merchant of Yonkers yn agor ar Broadway |
| 1942 | The Skin of Our Teeth yn agor ar Broadway (Gwobr Pulitzer). Sgript-ffilm ar gyfer The Shadow of a Doubt gan Alfred Hitchcock |
| 1942-45 | Gwasanaethu gyda Llu Awyr y Fyddin yng Ngogledd Affrica a’r Eidal (yn Is-Gyrnol ar adeg rhyddhau – Seren Efydd ac O.B.E.) |
| 1948 | The Ides of March (nofel); perfformio yn ei ddramâu mewn theatrau-haf yn y cyfnod hwn. The Victors yn agor oddi ar Broadway (cyfieithiad o Morts sans sépulture gan Sartre) |
| 1949 | Rôl bwysig yng ngŵyl Goethe Convocation yn Aspen; yn darlithio yn eang. |
| 1951-52 | Athro Barddoniaeth Charles Eliot Norton yn Harvard |
| 1952 | Medal Aur am Ffuglen, American Academy of Arts and Letters |
| 1953 | Ar glawr Time Magazine (Ionawr 12) |
| 1955 | The Matchmaker yn agor ar Broadway gyda Ruth Gordon.The Alcestiad a gynhyrchwyd yng Ngŵyl Caeredin gydag Irene Worth (fel A Life in the Sun |
| 1957 | Gwobr Heddwch yr Almaen |
| 1961 | Libretto ar gyfer The Long Christmas Dinner (cerddoriaeth gan Paul Hindemith—yn agor ym Mannheim, Gorllewin yr Almaen) |
| 1962 | “Plays for Bleecker Street” (Someone from Assisi, Infancy, a Childhood) yn agor yn y Circle in the Square, Efrog Newydd. Libretto ar gyfer The Alcestiad (cerddoriaeth gan Louise Talma—yn agor yn Frankfurt) |
| 1963 | Medal Rhyddid Arlywyddol UDA |
| 1964 | Hello, Dolly! gyda Carol Channing yn agor ar Broadway |
| 1965 | Medal Llenyddiaeth y National Book Committee |
| 1967 | The Eighth Day (National Book Award am Ffuglen) |
| 1973 | Theophilus North (nofel) |
| 1975 | Marw yn ei gwsg yn Hamden, Connecticut ar Ragfyr 7. Claddwyd ym Mynwent Mt. Carmel, Hamden |
Am fwy o wybodaeth ewch i www.thorntonwilder.com a www.thorntonwildersociety.org.
Nodyn gan Deulu Thornton Wilder:
Er i Thornton Wilder farw ym 1975, nid tan y ganrif newydd y daeth gwybodaeth archifol allweddol, yn enwedig cofnodion a oedd yn cael eu cadw gan dwrneiod Wilder, asiantiaid dramatig ac aelodau o’r teulu, ar gael a gallai’r rhai sy’n dymuno adeiladu darlun llawn a chywir o fywyd a gwaith Wilder ymgynghori â nhw.
Mae dwy gyfrol wedi eu hysgrifennu ers i’r archif lawn fod yn agored ac mae Teulu Wilder yn eu hargymell yn fawr, am eu bod yn rhoi cefndir a chyd-destun i’r ddrama:
- Thornton Wilder: A Life (2012) gan Penelope Niven. Bywgraffiad diffiniol cyntaf Thornton Wilder, a gyhoeddwyd gan Harper Collins.
- The Selected Letters of Thornton Wider (2008) a olygwyd gan Robin G. Wilder a Jackson R. Bryer. Sampl o rai o filoedd o lythyrau Wilder ynghyd â deunydd bywgraffyddol pwysig.
Rhestrir adnoddau cymeradwy ychwanegol isod, sy’n darparu rhagor o wybodaeth am waith Wilder; y mannau cywir i fynd atynt ar gyfer hawliau ailargraffu ar gyfer ffotograffau, detholiadau o nofelau, dramâu a llythyrau Wilder; ynghyd â ffyrdd o gysylltu ag arbenigwyr a ffaniau Wilder ledled y byd.
- Gwefan swyddogol Thornton Wilder – www.thorntonwilder.com. Cysylltwch a: Rosey Strub rosey@thorntonwilder.com
- Gwefan Cymdeithas Thornton Wilder – www.twildersociety.org·
- The Barbara Hogenson Agency. Asiant Llenyddol Wilder sydd yn gallu rhoi caniatâd ailargraffu ar gyfer nofelau a dramâu Wilder. Cysylltwch a: Barbara Hogenson bhogenson@aol.com
- Llyfrgell Beinecke ym Mhrifysgol Yale – www.beinecke.library.yale.edu. Deiliaid archif Thornton Wilder, gan gynnwys llawer o bapurau prin, llythyrau a ffotograffau.
- Cysylltwch a: Melissa Barton, Curator, Prose and Drama Melissa.barton@yale.edu.
- Cwmni Cyhoeddi Harper Collins – www.harpercollins.com. Ar gyfer rhifynnau cyhoeddedig o nofelau Wilder a dramâu hyd llawn yn ogystal â’r cyfeirlyfrau a restrir uchod. Cysylltwch a: Sofia Groopman, Assistant Editor Sofia.Groopman@harpercollins.com
- Concord Theatricals www.concord.com. Ar gyfer rhifynnau actio o ddramâu Wilder.
OUR TOWN © 1938, 1957 The Wilder Family LLC
Copyright agent: Alan Brodie Representation Ltd
www.alanbrodie.com