Jude Rogers
Mae Jude Rogers yn awdur, yn gyfwelydd ac yn wneuthurwr rhaglenni dogfen. Yn adnabyddus am ei newyddiaduraeth celfyddydau a diwylliant ar gyfer The Guardian, yr Observer a radioโr BBC, cyrhaeddodd ei chofiant o 2022, The Sound Of Being Human: How Music Shapes Our Lives, restr fer Llyfr y Flwyddyn a Gwobr Cerddoriaeth Penderyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Jude hefyd wedi bod yn cynnal prosiectau adrodd straeon sy'n gysylltiedig รข chymunedau ac achosion. Maeโr rhain yn cynnwys creu llyfr ac archif ddigidol o straeon staff a chleifion ar gyfer Canolfan Ganser Felindre Caerdydd wrth iddi symud i safle ysbyty newydd, ynghyd รข gwaith gyda chronfa cerddoriaeth ieuenctid Anthem Cymru a Pharagerddorfa Prydain Fawr.