Amiri Harewood
Wedi'i ddewis yn enillydd Gwobr Fawr Clyweliadau Rhyngwladol yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Artistiaid Clasurol Ifanc ac Urdd yr Artistiaid Cyngerdd ym mis Mai 2024, mae Amiri Harewood wedi perfformio yn rhai o leoliadau mwyaf mawreddog y DU a chafodd ei enwi yn Rising Star Classic FM ar gyfer 2025.
Mae'n perfformio'n rheolaidd ledled y DU a thramor, gyda’i berfformiadau blaenorol yn cynnwys datganiadau unigol yn Neuadd Steinway, St Martin-in-the-Fields, Institut Francais, Sefydliad Bishopsgate, y Royal Albert Hall (fel rhan o gyfres Artistiaid Ifanc Steinway), ac ymddangosiad ar BBC Radio London.
Dramor, mae wedi ymddangos yn y Conservatorio yn Fenis, Gŵyl Gerddoriaeth Schleswig-Holstein a Kissingen KlavierOlymp yn yr Almaen a Gŵyl Gerddoriaeth Mozart yn Forli, yr Eidal. Mae Amiri hefyd wedi cael y fraint o weithio gyda cherddorion enwog gan gynnwys Inon Barnatan, Vanessa Latarche a'r Trio Shaham-Erez-Wallfisch.
Cafodd ei ddewis yn un o Lysgenhadon Piano Tabor cyntaf ar gyfer Cystadleuaeth Biano Ryngwladol fawreddog Leeds, gan gynrychioli’r Royal College of Music, ac fel un o'r cyfranogwyr yng Ngŵyl Biano Lieven 2025, gan fynychu dosbarthiadau meistr gydag Arie Vardi, Andreas Staier ac Eldar Nebolsin. Mae'n parhau i weithio gyda'r gystadleuaeth i gyflwyno mentrau addysg ac allgymorth.