News Story

Rydyn ni’n cynnal galwad agored i ddod o hyd i gwmnïau theatr proffesiynol, cynhyrchwyr annibynnol a pherfformwyr unigol ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt sy’n mynd â sioeau proffesiynol ar daith o ngwanwyn 2027.
Bob blwyddyn, mae gennym ni raglen o gannoedd o sioeau a digwyddiadau ar draws amrywiaeth o fannau theatr – digwyddiadau teithiol gwledig penodol i’r safle i 50 o bobl, ein stiwdio sy’n dal 200 o bobl, a’n prif theatr sy’n dal 500.
Rydyn ni wedi bod ar agor ers 1976, felly rydyn ni’n gwybod am nifer enfawr o gwmnïau ac mae ein tîm yn cadw llygad am waith newydd yn rheolaidd. Ond yn anffodus rydyn ni’n siŵr o beidio â chlywed am ambell sioe anhygoel nes ei bod hi’n rhy hwyr. Dyna’r rheswm am yr alwad hon – i gwrdd â chwmnïau, pobl, rhaglenwyr a threfnwyr teithiau newydd – i wneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i gyflwyno’r gwaith gorau o Gymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt i’n cynulleidfaoedd.
Os ydych chi’n gwmni theatr proffesiynol, yn trefnu teithiau neu’n cynhyrchu gwaith proffesiynol a fyddai’n hoffi rhoi rhagor o wybodaeth i ni am eich gwaith, cysylltwch da chi drwy’r ffurflen isod.
Nodiadau canllaw:
Mae’r nodiadau hyn yn benodol i’r alwad hon – efallai y bydd galwadau eraill yn y dyfodol ar gyfer gwaith cymunedol, artistiaid neu gyd-gynyrchiadau.
Am beth ydyn ni’n chwilio:
✔ Gwaith sy’n teithio’n broffesiynol
✔ Pawb yn cael isafswm “Equity” o leiaf
✔ Teithio o ngwanwyn 2027
✔ Gwaith wedi’i greu gan leoliadau eraill a allai ymestyn ei daith i ni
✔ Pob ffurf gelf. Theatr, dawns, darlithoedd, sgyrsiau a cherddoriaeth.
Dydyn ni ddim yn chwilio am y canlynol ar hyn o bryd:
✖ Sgriptiau heb eu cynhyrchu
✖ Sioeau heb weithwyr creadigol proffesiynol ynghlwm wrthynt
✖ Cynigion
✖ Perthynas cyd-gynhyrchu newydd
✖ Bandiau teyrnged i leoliadau â llai na 500 o seddi
✖ Clirweledwyr, Hypnotyddion neu Seicics

Cyflwyno eich Sioe Broffesiynol
Cliciwch yma i fynd i ffurflen fer (5-10 munud) lle gallwch chi roi rhagor o wybodaeth am eich sioe deithiol.


