Ymddiriedolwr (Cyfarwyddwr)
Disgrifiad Swydd

Mae Theatr Clwyd yn sefydliad diwylliannol hanfodol, nid yn unig i gynulleidfaoedd lleol ond hefyd i Gymru ac yn ehangach ledled y DU.
Mae 2025 wedi bod yn flwyddyn eithriadol i'r sefydliad, wedi'i nodi gan agoriad yr adeilad wediโi ddatblygu oโr newydd i'r cyhoedd yn dilyn prosiect cyfalaf gwerth ยฃ50 miliwn. Mae hyn yn golygu bod y ddwy flynedd nesaf yn hanfodol wireddu'r cyfleoedd a gyflwynir gan fuddsoddiad mor sylweddol โ gan sicrhauโr budd gorau posib oโn gofod cynhyrchu refeniw newydd, datblygu model ariannol cadarn a gwydn, a hefyd parhau i wella ein darpariaeth creu theatr o safon byd, ein rhaglenni cymunedol ymroddedig, a'n partneriaethau cadarn mewn lleoliadau celfyddydau ac iechyd.
Yn ogystal รข'r adeilad sydd wediโi agor oโr newydd yn Sir y Fflint, mae Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd yn gyfrifol hefyd am reoli a gweithredu Neuadd William Aston yn Wrecsam. Gyda'r lleoliad yn eiddo i Brifysgol Wrecsam, mae'r ddau bartner yn awyddus i fuddsoddi yn y cyfleuster yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod wrth i Wrecsam wneud cynnydd gydaโi datblygiad diwylliannol, yn unol รข'r cais a gyhoeddwyd yn ddiweddar i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU, 2029.
Hefyd mae gan Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd chwaer elusen, Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd, ac rydym yn falch o ddarparu addysg gerddoriaeth i 78 o ysgolion a mwy na 3000 o bobl ifanc bob wythnos.
Gyda phartneriaethau cyllido hirdymor yn eu lle gyda Chyngor Sir y Fflint ac fel trydydd cleient mwyaf Cyngor Celfyddydau Cymru (a'r mwyaf y tu allan i Gaerdydd), mae gennym drosiant blynyddol o tua ยฃ13m a mwy na 200 o bobl yn aelodau craidd y cwmni. Rydym mewn sefyllfa berffaith i siapio dyfodol gwydn ac uchelgeisiol ac rydym bellach yn chwilio am ymddiriedolwr newydd i ymuno รข'r Bwrdd, gyda gofyniad penodol am arbenigedd fel cyfarwyddwr ariannol ar gyfer sefydliad elusennol neu drydydd sector.
Gobeithio y bydd y cyfle hwn yn eich cyffroi chi gymaint ag y mae'n ein cyffroi ni, gan ei bod yn foment fawr i ni gael effaith gadarnhaol ar lawer o bobl, o genedlaethauโr presennol a'r dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych chi.
Helen Watson (Cadeirydd), Liam Evans-Ford (Cyfarwyddwr Gweithredol), a Kate Wasserberg (Cyfarwyddwr Artistig)
Tymhorau Gwasanaethu
Tymor cychwynnol o 3 blynedd; gellir ailbenodi aelodau'r bwrdd am hyd at uchafswm o 3 thymor.
Ymrwymiad Amser:
Pedwar cyfarfod Bwrdd y flwyddyn, gyda'r nos ar ddyddiau'r wythnos.
Rhywfaint o waith pwyllgor rhwng cyfarfodydd.
Disgwylir ymrwymiad i ddeall gweithgareddau Theatr Clwyd drwy fynychu digwyddiadau.
Y Rรดl
Crynodeb o'r Rรดl
Mae aelodau'r Bwrdd yn Theatr Clwyd yn goruchwylio strategaeth, cyllid, gweithrediadau a llywodraethu'r cwmni, gan weithio gyda'r Tรฎm Gweithredol a'r Uwch Dรฎm Arwain.
Cyfrifoldebau Allweddol
Fel aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, byddwch yn cyflawniโr canlynol:
- Sicrhau bod Theatr Clwyd yn dilyn ei hamcanion fel maent yn cael eu diffinio yn ei dogfen lywodraethu
- Sicrhau bod gan yr elusen weledigaeth, cenhadaeth a chyfeiriad strategol clir a'i bod yn canolbwyntio ar gyflawni'r rhain
- Bod yn gyfrifol am berfformiad yr elusen ac am ei hymddygiad "corfforaethol"
- Sicrhau bod y llywodraethu ar yr elusen o'r safon uchaf bosibl wrth ddilyn ei hamcanion. Mae hyn yn cynnwys cydymffurfio รข'i dogfen lywodraethu, cyfraith elusennau, cyfraith cwmnรฏau ac unrhyw ddeddfwriaeth neu reoliadau perthnasol eraill
- Sicrhau bod Theatr Clwyd yn defnyddio ei hadnoddau yn gyfan gwbl er mwyn cyflawni ei hamcanion
- Gweithredu fel gwarcheidwad asedau'r elusen, yn ddiriaethol ac yn anniriaethol, gan gymryd pob gofal dyledus dros eu diogelwch, eu dosbarthu aโu defnyddioโn briodol
- Cymeradwyo'r Cynllun Busnes, gan gynnwys amcanion cyffredinol a chyllidebau wrth ddirprwyo'r gweithredu i'r Tรฎm Gweithredol a'r Uwch Dรฎm Arwain
- Cytuno ar bennu strategaeth a chyllidebau a sefydlu polisรฏau Theatr Clwyd
- Gwerthuso effeithiolrwydd y bwrdd yn rheolaidd gan ymgynghori รข'r Uwch Dรฎm Arwain
- Sicrhau gweinyddiaeth a gweithrediadau effeithiol ac effeithlon yn Theatr Clwyd yn unol รข'i strategaeth, ei chyllidebau aโi pholisรฏau
- Sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd ariannol Theatr Clwyd
- Pennu cyflog y tรฎm gweithredol
- Diogelu enw da a gwerthoedd Theatr Clwyd.
Y Person
- I ategu sgiliau a phrofiad ein bwrdd presennol, yn y rownd recriwtio hon rydym yn chwilio'n benodol am ymgeiswyr sydd รข phrofiad mewn archwilio a naill ai rheolaeth ariannol neu arbenigedd cyllid elusennol.
- Mae gwybodaeth a / neu brofiad o'r sector elusennol neu'r celfyddydau neu'r sector hamdden a lletygarwch yn hynod ddymunol.

Gwnewch gais am y rรดl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio'n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i'r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch lenwi ffurflen ar-lein i uwchlwytho eich CV a Llythyr Eglurhaol er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rรดl hon.